Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Mynediad i Dir a Hawl i Grwydro

  • Cyn y flwyddyn 2000, roedd llawer o bobl yn credu y dylent allu mwynhau mwy o gefn gwlad Cymru. Roedd galw cynyddol am fwy o fynediad i ardaloedd o dir preifat
  • O ganlyniad, daeth Deddf Seneddol i rym. Rhoddodd hyn hawl i bobl gerdded yn ardaloedd agored cefn gwlad ac ar dir i ffwrdd o lwybrau troed
  • Yn aml, defnyddir y term ’Hawl i Grwydro’ i ddisgrifio’r mynediad cynyddol hwn, ond does dim hawl gan bobl i gerdded ar unrhyw ddarn o dir preifat
  • Does dim hawl gennych i gerdded ar draws gerddi pobl eraill, ar gaeau o gnydau, neu mewn ardaloedd sydd wedi’u hamddiffyn oherwydd rhesymau cadwraeth. Mae ardaloedd y mae hawl cerdded arnynt bellach yn cynnwys corsydd, rhosydd a mynyddoedd
  • Hefyd mae cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r math o bethau medrwch eu gwneud yno, er enghraifft beicio neu farchogaeth. Fel rheol, mae hawl cerdded yn unig yn y llefydd hyn
  • Os ydych chi allan yn y wlad mae’n bwysig cofio’r cod cefn gwlad; cewch esboniad manwl trwy ddilyn y linc isod. Bydd hyn yn eich helpu i fwynhau cefn gwlad a’i diogelu ar gyfer pobl eraill

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50