Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Clonio a Geneteg
Yn yr Adran Hon
- Clonio a Geneteg
- Labelu Cynnyrch
- Twf Poblogaeth
- Tlodi
- Y Cenhedloedd Unedig
- Twf a Datblygiad Economaidd
- Masnach Deg
- Bwyd Organig
- Trafnidiaeth
- Newyn a Sychder
- Cynnal Profion ar Anifeiliaid
- Hela
- Allfudo Anifeiliaid Byw
- Bwydydd sydd wedi'u haddasu'n enetig
- Mynediad i Dir a Hawl i Grwydro
- Llygredd
- Ailgylchu
- Hawliau Dynol
- Mae genynnau’n ffurfio pob peth byw. Mae genynnau’n pennu pwy yr ydym, o liw ein llygaid i’r clefydau a all gael effaith arnom
- Mae genynnau’n cael eu ffurfio gan DNA (Asid Diocsiriboniwclëig), sylwedd sydd ymhob cell y corff. Mae genynnau’n rhoi negeseuon i’r celloedd i ddweud beth i’w wneud er mwyn i’r corff weithio.
- Mae celloedd a genynnau’n fach iawn a gellir ond eu gweld dan ficrosgop cryf
- Mae gan fodau dynol filoedd o enynnau ac mae gan bob un ohonynt bwrpas gwahanol yn ein cyrff. Er bod yr un genynnau gan bob bod dynol, mae gennym god DNA unigryw sy’n pennu pwy yr ydym
- Rydym yn rhannu 98 y cant o’n genynnau gyda tsimpansïaid, 92 y cant gyda llygod a bron i 44 y cant gyda phryfed ffrwythau. Mae hyn yn dangos sut y gall newidiadau bach yn y genynnau ffurfio pethau byw gwahanol iawn
- Mae clefydau dynol fel ffibrosis systig yn cael eu hachosi gan enynnau. Mae gwyddonwyr yn astudio’r genynnau hyn er mwyn darganfod a ydy hi’n bosib atal clefydau genynnol
- Mae dadleuon o blaid ac yn erbyn ymchwil genetig. Mae rhai’n credu na ddylem ymyrryd â’n genynnau ac ni ddylem geisio rheoli’r pethau sy’n ein gwneud ni’n ’ni’. Mae eraill yn credu bod ymchwil genetig yn gam pwysig tuag at osgoi clefydau a salwch
Clonio
- Mae clôn yn union gopi geneteg o rywbeth byw. Mae clonau eisoes yn byw ym myd natur. Mae sawl planhigyn yn glôn o rai eraill ac, ymhlith bodau dynol, mae gefeilliaid unfath yn glonau
- Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi darganfod sut i greu clonau artiffisial mewn labordai
- Mae clonio yn bwnc dadleuol iawn. Mae rhai’n credu nad yw’n deg addasu’r ffordd y byddai bywyd wedi parhau yn naturiol heb ymyrraeth gwyddonwyr
- Ym mis Gorffennaf 1996, ganwyd y mamolyn clôn cyntaf - Dolly’r ddafad. Ers y pryd hwnnw mae gwyddonwyr wedi clonio ceffylau, mwncïod a theirw. Mae cath anwes wedi’i chlonio hyd yn oed
- Defnyddir clonio fel rhan o ymchwil meddygol ac mae hwn yn brif faes astudio gwyddonol
- Mae clonio yn wyddor newydd a rhaid ystyried materion diogelwch a thechnegol yn ogystal â dadleuon moesol a moesegol sy’n gysylltiedig â chlonio