Gwybodaeth » Amgylchedd » Ynni
Yn yr Adran Hon
Ydych chi’n gwybod o ble y daw ein nwy a’n trydan? Beth sy’n pweru eich rheiddiaduron i’ch cadw’n gynnes ac o ble y mae’r tegell yn cael ei ynni i ferwi dwr?
Heddiw, daw’r rhan fwyaf o’n nwy a’n trydan o danwydd ffosil fel glo, petrolewm a nwy naturiol. Fe’u ffurfiwyd gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac fe’u canfyddir o dan y ddaear ac o dan lawr y cefnfor.
Unwaith y bod tanwyddau ffosil wedi eu lleoli o dan y ddaear, deuir â nhw i’r wyneb a’u troi yn ynni drwy losgi.
Yn anffodus, mae tanwyddau ffosil yn adnoddau na ellir eu hadnewyddu. Golyga hyn mai cyfansymiau penodedig ohonynt sy’n bodoli ac na ellir eu hatgynhyrchu yn rhwydd ac yn gyflym wedi iddynt gael eu disbyddu. Mae llosgi tanwyddau ffosil hefyd yn rhyddhau llawer o garbon deuocsid i’r amgylchedd sy’n arwain at lygredd a chynhesu byd-eang.
Ond y mae ffyrdd mwy glân o gynhyrchu’r ynni y mae arnom ei angen. Gallwn wneud hyn drwy harneisio gwynt, golau’r haul, deunydd planhigion neu wres o graidd y Ddaear a chynhyrchu trydan sy’n gyfeillgar o safbwynt amgylcheddol.
Bydd yr adran hon yn eich cyflwyno i wahanol ffyrdd o harneisio ynni’r byd, yn ogystal â ffyrdd o arbed ynni yn ein bywydau bob dydd.
Sefydliadau
-
Greenpeace UK - Renewable Energy
Information about climate change from Greenpeace UK