Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Hawliau Dynol

  • Mae hawliau dynol yn hawliau sylfaenol y dylai fod hawl gan bawb eu cael nhw. Mae hawliau pwysig yn cynnwys:
    • Rhyddid a chydraddoldeb i bawb
    • Hawl i weithio a chael bywyd teuluol
    • Hawl i fyw heb ofn a bod yn ddiogel
    • Hawl i gael cymorth ynad a chael treial teg
    • Hawl i gael eich cynrychioli gan y llywodraeth ac i gael addysg
    • Hawl i feddwl a mynegi eich hunan yn rhydd

Hawliau dynol ledled y byd

  • Mewn rhai gwledydd, nid oes lawer o hawliau dynol gan bobl ac maen nhw’n ofni y cânt eu poenydio a’u bygwth bob dydd
  • Gall hyn ddigwydd pan fo rhyfel mewn gwlad ac mae hawliau dynol yn cael eu hanwybyddu. Yn ogystal â gwneud i bobl ofni trais corfforol, gall prinder hawliau dynol effeithio ar hawliau pobl i ennill arian, er enghraifft pan fo’u cnydau a’r anifeiliaid y maen nhw’n eu ffermio yn cael eu difetha
  • Pan fo llywodraeth yn llwgr (’corrupt’), mae ymyriadau â hawliau dynol yn digwydd yn aml. Efallai y bydd pobl yn ofni dweud eu dweud, oherwydd bod y llywodraeth yn bygwth trais os yw pobl yn beirniadu’r llywodraeth hwnnw
  • Nid oes llawer o hawliau dynol mewn rhai gwledydd. Gall pobl gael eu poenydio neu’u cadw yn y carchar heb gael treial teg

Hawliau dynol yng Nghymru a Phrydain

  • Gan fod hawliau dynol sylfaenol wedi’u sefydlu yng Nghymru a Phrydain, mae materion eraill yn effeithio ar hawliau dynol y wlad hon. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn diogelu’r hawliau sylfaenol sydd gan bobl ein gwlad ni i fyw bywyd rhydd
  • Defnyddir y ddeddf hon i ddiogelu pobl sydd ddim yn gallu siarad drostyn nhw eu hunain, fel yr henoed neu bobl ag anghenion arbennig, neu bobl heb lawer o arian, fel pobl digartref. Mae hawl gan bawb i gael eu parchu
  • Ceir dadleuon ynglŷn â mewnfudwyr i Brydain byth a beunydd. Mae pobl yn ceisio lloches neu ddiogelwch yn y wlad hon rhag y peryglon yn eu gwledydd nhw. Mae rhai’n meddwl bod eu hawl i fyw heb gael eu bygwth gan drais yn golygu y dylen nhw gael hawl i aros yn y wlad hon

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50