Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Y Cenhedloedd Unedig
Yn yr Adran Hon
- Clonio a Geneteg
- Labelu Cynnyrch
- Twf Poblogaeth
- Tlodi
- Y Cenhedloedd Unedig
- Twf a Datblygiad Economaidd
- Masnach Deg
- Bwyd Organig
- Trafnidiaeth
- Newyn a Sychder
- Cynnal Profion ar Anifeiliaid
- Hela
- Allfudo Anifeiliaid Byw
- Bwydydd sydd wedi'u haddasu'n enetig
- Mynediad i Dir a Hawl i Grwydro
- Llygredd
- Ailgylchu
- Hawliau Dynol
Cefndir a strwythur y Cenhedloedd Unedig
- Sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan obeithio osgoi rhyfeloedd yn y dyfodol. Mae bron â bod pob cenedl yn y byd yn aelod, sef cyfanswm o191 gwlad
- Ar 26 Mehefin 1945 bu i 51 gwlad wreiddiol y cenhedloedd unedig lofnodi siarter yn cytuno i:
- Gynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol
- Datblygu perthnas gyfeillgar ymysg y cenhedloedd
- Cydweithio i ddatrys problemau rhyngwladol ac i hyrwyddo parch tuag at hawliau dynol
- Bod yn ganolfan gytgordio gweithredoedd y cenhedloedd
- Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fel senedd y byd. Mae’r gwledydd sy’n aelodau yn pleidleisio ar unrhyw benderfyniadau - mae un bleidlais gan bawb. Rhaid i benderfyniadau pwysig dderbyn mwyafrif o ddau draean o’r bleidlais cyn iddynt ddod yn ’ Benderfyniad’ (’Resolution’)
- Mae’r Cyngor Diogelwch yn pleidleisio ar y ffyrdd y gellir rhwystro gwledydd rhag rhyfela. Mae 15 o wledydd yn aelodau’r Cyngor Diogelwch
- Mae pump o’r rhain yn aelodau parhaol, a all atal unrhyw benderfyniad nad ydynt yn cytuno gydag ef. Y gwledydd hyn yw: Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Rwsia a Gweriniaeth Pobl Tsieina
- Enw pennaeth y Cenhedloedd Unedig yw’r Ysgrifennydd Cyffredinol. Mae Kofi Annan wedi bod yn gwneud y swydd hon ers 1997
- Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gyfrifol am gyfiawnder rhyngwladol. Os ydy person yn cyflawni trosedd rhyngwladol fel hil-laddiad, cânt ei roi ar dreial yn llys rhyngwladol yr Hâg yn yr Iseldiroedd
- Mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, ond yn swyddogol mae hi ar dir diduedd y mae pob cenedl y Cenhedloedd Unedig yn berchen arno. Hefyd, mae swyddfeydd yn Genefa yn y Swistir ac yn Fienna, Awstria
- Daw ariannu’r Cenhedloedd Unedig o’r aelodau, a’r Unol Daleithiau yw’r mwyaf o’r rhain. Nid yw pob gwlad yn cyfrannu’n ariannol ac mae ar yr Unol Daleithiau mwy na $1.3 biliwn i’r Cenhedloedd Unedig
Rhai o’u gweithgareddau
- Mae’r Cenhedloedd Unedig yn rheoli byddin i gadw heddwch, sy’n cynnwys aelodau o fyddin y gwledydd sy’n aelodau. Bydd llu heddwch yn mynd i rannau’r byd lle mae rhyfel wedi bod er mwyn ceisio sicrhau na fydd y wlad honno’n rhyfela eto
- Fe ddigwyddodd hyn yn y 1990au yn ystod Rhyfel y Balcannau, ac yn Nwyrain Timor hyd nes iddo ddod yn annibynnol yn 2001. Efallai y byddwch yn adnabod y lluoedd heddwch o’u hetiau glas unigryw
- Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn goruchwylio sawl grŵp sy’n darparu cymorth ymarferol ar faterion fel hawliau dynol, megis helpu gwledydd sydd newydd gael eu ffurfio gychwyn etholiadau democratig. Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth ar faterion fel hawliau menywod
- Pan fo trychinebau yn digwydd, fel tswnami de-ddwyrain Asia yn 2004, mae’r Cenhedloedd Unedig yn darparu bwyd, llochesau, a moddion i’r rheini sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol. Maen nhw hefyd yn helpu pobl dlotaf y byd mewn gwledydd lle mae bwyd a dŵr bob amser yn brin
- Mae’n bosib y byddwch wedi clywed am enwogion fel Angelina Jolie a Robbie Williams sy’n Lysgenhadon Ewyllys Da (’Goodwill Ambassadors’) UNICEF. Mae UNICEF yn elusen i blant sy’n rhan o’r Cenhedloedd Unedig, ac mae’u llysgenhadon yn ceisio codi ymwybyddiaeth am faterion cysylltiedig â phlant dros y byd
Pobl ifanc a’r Cenhedloedd Unedig
- Mae gan bobl ifanc ran arbennig yn y Cenhedloedd Unedig, ac mae cynrychiolwyr iau yn mynd i gyfarfodydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn y pencadlys yn Efrog Newydd
- Mae Rhaglen pobl ifanc y Cenhedloedd Unedig yn ymgyrchu dros faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc, fel addysg, cyflogaeth a pherthnasau rhwng pobl ifanc a’r henoed
- Gallwch ddod i wybod rhagor ynglŷn â’r ffordd y mae’r Cenhedloedd Unedig yn gweithio trwy gyfranogi at Fodel y Cenhedloedd Unedig. Cyfarfod ar gyfer pobl ifanc yn hwn; maen nhw’n cymryd rôl gwleidyddion gwlad arbennig ac yna’n esgus eu bod yn ymateb i ryw sefyllfa wleidyddol
- Rhaid i bob person ymchwilio i arferion, diwylliant a sefyllfa bresennol ei wlad benodedig er mwyn ei chynrychioli’n iawn ym Model y Cenhedloedd Unedig
- Gallwch sefydlu Model y Cenhedloedd Unedig eich hun yn eich ysgol neu’ch clwb lleol, neu medrwch ymuno â grŵp mwy o faint sydd eisoes yn cynnal grŵp tebyg