Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Llygredd
- Mae sylweddau fel cemegau neu nwyon niweidiol sy’n cael eu gollwng i’r atmosffer yn achosi llygredd, a all achosi niwed i bethau byw
- Mathau o lygredd:
- Llygredd aer - gall hwn gael ei greu gan fwg, sy’n niweidio planhigion ac yn lleihau ansawdd yr aer, neu gan nwyon fel methan o byllau sbwriel a charbon deuocsid o geir sy’n cynyddu’r effaith tŷ gwydr. Gall nwy o’r enw sylffwr diocsid gymysgu gyda’r cymylau a dod nôl i’r ddaear fel glaw asid, sy’n niweidio fforestydd a chnydau
- Llygredd dŵr - gall pethau fel cemegau o ffermydd neu ffatrïoedd a charthffosiaeth fynd mewn i’r system ddŵr a’i llygru. Yn aml mae hyn yn golygu nad yw’n ddiogel i bobl nac anifeiliaid yfed y dŵr hwnnw. Mae arllwysiad olew yn ffurf ddifrodus o lygredd sy’n lladd anifeiliaid a’u cynefin
- Llygredd Sŵn - gall sŵn aflonyddu ar bobl ac anifeiliaid a’u gwneud yn anhapus. Mae llygredd sŵn yn broblem yn aml wrth ymyl meysydd awyr neu ffyrdd prysur
- Gall llygredd gael effaith eang. Er enghraifft, gall cemegau sy’n cael eu rhoi mewn i afon gyrraedd y môr lawer o filltiroedd i ffwrdd. Mae mymrynnau o gynnyrch glanhau wedi’u darganfod mewn cyrff eirth gwynion (’polar bears’) a sy’n byw yn yr Arctig
- Un o broblemau mwyaf llygredd yw ei effaith ar gynhesu byd-eang a’r effaith tŷ gwydr. Mae’r pethau rydym yn eu defnyddio bob dydd, fel ceir ac awyrennau, yn ogystal â thrydan, yn cynhyrchu carbon deuocsid sy’n cynyddu’r nwyon tŷ gwydr ac yn cynhesu’r byd
- Mae llygredd yn achosi niwed i bobl yn ogystal â chael effaith ar yr amgylchedd. Mae llawer o blant sy’n byw mewn ardaloedd lle mae lefelau llygredd uchel yn dioddef o asma, ac os yw afonydd neu foroedd wedi’u llygru gan gemegau neu garthffosiaeth mae’n beryglus nofio ynddyn nhw
- Mae cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn bodoli sy’n pennu pa faint o lygredd sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer sy’n dderbyniol, ond weithiau mae’n anodd sicrhau bod cwmnïau, neu wledydd hyd yn oed, yn cadw at y rheolau hyn