Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Newyn a Sychder

  • Ystyr ’sychder’ yw cyfnod amser lle mae dŵr yn brin iawn ac o ganlyniad all pobl yr ardal ddim byw na gweithio yn y modd y byddent yn ei wneud pe bai dŵr ganddyn nhw
  • Mae llawer o’r gwledydd sy’n cael eu heffeithio gan sychder yn dlawd ac mae’n anodd iddynt ymdopi â phrinder dŵr. Mae gwledydd Affrica wedi cael eu heffeithio gan sychder yn ddifrifol yn ystod y blynyddoedd diweddar
  • Mae effaith sychder ar bobl yn fwy na pheidio â chael digon i yfed. Efallai y bydd buchesau ffermwyr yn marw yn ystod sychder, neu bydd rhaid iddyn nhw fwyta’r grawn roeddynt yn bwriadu ei blannu’r flwyddyn nesaf. Felly, mae effaith sychder yn achosi problemau hyd yn oed pan fo dŵr ar gael unwaith eto
  • Oherwydd sychder, nid oedd llawer o fwyd ar gael yn aml a bydd llawer o ardaloedd sy’n dioddef o sychder hefyd yn dioddef o newyn
  • Pan fo prinder bwyd difrifol iawn, fe’i gelwir yn ’newyn’. Yn ystod newyn mae llawer o bobl yn marw oherwydd newyn ac afiechydon na all eu cyrff frwydro yn eu herbyn gan eu bod yn rhy wan oherwydd prinder bwyd
  • Yn 2005, amcangyfrifodd y Cenhedloedd Unedig fod 815 miliwn o bobl yn y byd yn dioddef o ddiffyg maeth cronig. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn bwyta’r lleiafswm bwyd argymelledig sydd ei angen i fyw, gan fod bwyd mor brin. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod bod 30 gwlad yn wynebu argyfwng bwyd difrifol
  • Does dim digon o fwyd yn y byd i fwydo pawb, ond mae gor-cynhyrchu yn y gwledydd cyfoethog a than-cynhyrchu yn y gwledydd tlawd yn golygu bod llawer o fwyd yn cael ei wastraffu
  • Mae llawer o wledydd cyfoethog yn rhoi cymorth i wledydd sy’n fwy tlawd er mwyn lleddfu’r problemau amlycaf. Ond mae nifer o bobl bellach yn meddwl ei bod hi’n fwy pwysig rhoi’r adnoddau i bobl dyfu eu bwyd eu hunain er mwyn osgoi newyn yn y dyfodol

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50