Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Allfudo Anifeiliaid Byw

  • Weithiau mae anifeiliaid yn cael eu cludo’n bell pan rydynt yn fyw, fel y gallant gael eu lladd yn agosach at y marchnadoedd fel bod y cig yn fwy ffres
  • Mae llawer o bobl yn poeni am y ffordd y mae’r anifeiliaid yn cael eu trin wrth iddynt gael eu cludo
  • Caiff lloi eu cludo pan maen nhw’n dal yn fyw. Cânt eu lladd ar gyfer cig llo (’veal’), sy’n gig gwyn iawn ac yn ddanteithfwyd mewn rhai o wledydd Ewrop
  • Weithiau caiff lloi eu cadw mewn cewyll bach, sy’n eu hatal rhag symud, hyd yn oed ychydig o gentimedrau, a rhoir bwyd iddynt sydd â nifer fach iawn o haearn ynddo fel bod eu cig yn wyn iawn. Gelwir y cewyll hyn yn gewyll cig llo (’veal crates’) ac maen nhw wedi’u gwahardd ym Mhrydain
  • Rhwng 1996 a 2006 roedd hi’n anghyfreithlon cludo lloi byw allan o Brydain oherwydd yr argyfwng BSE
  • Yn ystod yr adeg hon, doedd dim angen lloi gwrywaidd ac yn aml cawsant eu lladd ar ôl iddynt gael eu geni. Ail-gychwynnwyd allforio lloi byw pan ddiddymodd yr Undeb Ewropeaidd y gwaharddiad ar allforio cig eidion yn 2006
  • Mae rhai’n poeni y bydd anifeiliaid yn cael eu cam-drin dramor hyd yn oed os cânt eu trin yn dda ym Mhrydain

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50