Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Hela
- Ym Mhrydain, mae sawl math gwahanol o hela, a hela llwynogod yw’r un mwyaf enwog
- Mae hela llwynod yn cychwyn pan fo helgwn yn codi trywydd llwynog ac yn mynd ar ei ôl, naill ai hyd nes bod y llwynog yn cael ei ladd neu nes i’r llwynog ddianc i dwll yn y ddaear
- Mae llawer o ddefodau sy’n gysylltiedig â hela llwynogod, gan gynnwys y siacedi coch amlwg y mae rhai o’r helwyr yn eu gwisgo, ac fe’u gelwir yn siacedi ’pinc’
- Mae’r bobl sy’n protestio yn erbyn hela’n dweud bod hela gyda chŵn yn ffordd dreisgar a diangen o ladd llwynog fel rhan o gêm i ddynion
- Yn ôl y bobl o blaid hela, nid yw llwynog yn cael ei ladd yn aml a’t r peth mwyaf gwefreiddiol am hela yw’r marchogaeth
- Mae’r ffordd o fyw sy’n gysylltiedig â hela llwynogod yn bwysig i lawer o bobl sy’n byw yng nghefn gwlad. Maen nhw’n credu nad yw’r bobl sydd yn erbyn hela ac sy’n byw mewn trefi yn deall y ffordd hon o fyw
- Yn 2005 pasiwyd y Mesur Hela a wnaeth hela gyda chŵn yn anghyfreithlon
- Mae hela wedi parhau mewn rhai ardaloedd, oherwydd nid yw’n anghyfreithlon erlid llwynog yna ei saethu’n farw