Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Trafnidiaeth

  • Mae pob un ohonom yn defnyddio rhyw fath o drafnidiaeth gyhoeddus, o geir a bysiau i awyrennau, trenau a chychod
  • Mae’r rhan fwyaf o gerbydau’n gweithio trwy ddefnyddio tanwydd olew fel petrol neu ddisel. Mae’r tanwydd hwn yn creu llawer o garbon deuocsid sy’n mynd mewn i’r atmosffer ac yn niweidio’r amgylchedd
  • Rydym yn defnyddio ceir yn fwyfwy aml yma yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn teithio bron i 4,000 milltir mewn car bob blwyddyn
  • Mae arbenigwyr wedi ymchwilio i ffyrdd eraill o roi pŵer i gerbydau - ceir yn enwedig. Dyma rai o’r opsiynau hyn:
    • Mae Nwy Naturiol Hylifedig ar gael mewn rhai gorsafoedd petrol ar hyn o bryd ac mae’n ddigon hawdd addasu ceir i dderbyn y math yma o danwydd
    • Mae rhai ceir yn defnyddio systemau hybrid, lle mae petrol a thrydan yn cael eu cyfuno
    • Mae Biodisel yn danwydd a wneir o olew llysiau a chaiff ei gymysgu â disel arferol yn aml
    • Gellir defnyddio celloedd tanwydd hydrogen i roi pŵer i geir ond bydd rhaid cynnal rhagor o waith ymchwil i leihau costau storio
  • Bydd defnyddio cerbydau mwy effeithlon yn helpu i leihau gollyngiadau tanwydd, ond gan ein bod ni’n teithio mwy nag yr oeddem ni, rhagdybir y bydd gollyngiadau carbon deuocsid yn codi
  • Mae sawl grŵp amgylcheddol yn credu y dylai’r llywodraeth fuddsoddi mwy o arian mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel na fydd pobl yn defnyddio’u ceir cymaint ag y maen nhw ar hyn o bryd
  • Mae cerdded a beicio yn ffyrdd o deithio sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd. Mae’r rhan fwyaf o’n teithiau yn rhai byr a gallwn gerdded neu feicio yn yr achosion hyn

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50