Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Labelu Cynnyrch
- Mae labeli ym mhob man. Gallant roi gwybodaeth ynglŷn â’r bwyd rydym yn ei fwyta a’r pethau rydym yn eu prynu. Yn ôl y gyfraith, rhaid i labeli gynrychioli’r cynnyrch yn gywir
- Dylech fod yn ymwybodol y gall rhai o’r ffyrdd y mae cwmnïau’n disgrifio’u cynnyrch gamarwain defnyddwyr. Er enghraifft, does dim diffiniad penodol ar gyfer y gair ’naturiol’. Os oes unrhyw amheuaeth, dylech ddarllen manylion y label
- Rhaid bod rhyw gysylltiad rhwng y cynnyrch a’r disgrifiad sydd ar y label. Er enghraifft os oes llun o fefus ar iogwrt rhaid i’r rhan fwyaf o’r blas ddod o’r mefus
- Yn aml mae gan fwydydd ’opsiwn iachus’, yn enwedig rhai â llai o fraster, fwy o halen neu siwgr i wneud iddynt flasu’n well, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cynhwysion ar y label
- Byddwch yn wyliadwrus o gynnyrch sy’n honni eu bod yn ’wyrdd’ neu’n ’ecogyfeillgar’, gan nad yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod yn barchus tuag at yr amgylchedd. Os oes amheuaeth, edrychwch am ddatganiadau penodol fel ’60 y cant wedi’i ailgylchu’, neu edrychwch am farciau ansawdd fel marc y Soil Association sy’n gwarantu bod rhywbeth yn organig
- Os credwch fod cynnyrch wedi’i labelu’n anghywir, medrwch gysylltu â’r cwmni sy’n ei weithgynhyrchu neu’ch adran Safonau Masnach leol