Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Cynnal Profion ar Anifeiliaid

  • Mae nifer y profion ar anifeiliaid heddiw tua hanner y nifer a oedd yn cael eu cynnal 30 blynedd yn ôl. Yn 2001, cafodd 2.5 miliwn o anifeiliaid eu defnyddio mewn profion gwyddonol
  • Dan Gyfraith Prydain, rhaid profi pob moddion newydd ar o leiaf ddau fath o anifail. Fe wneir hyn er mwyn sicrhau na fydd y cyffur yn niweidio pobl
  • Pe na bawn yn profi ar anifeiliaid, fyddai meddygaeth fodern ddim wedi datblygu yn yr un modd
  • Mae cynnyrch sy’n cael eu profi ar anifeiliaid yn cynnwys paent, cynnyrch glanhau, plaleiddiaid a chemegau a ddefnyddir mewn diwydiant. Ym Mhrydain mae’n anghyfreithlon profi colur ar anifeiliaid
  • All y bobl sy’n cynnal y prawf ddim bod yn greulon i anifeiliaid, ond mae’r profion yn aflonyddu ac yn niweidio’r anifeiliaid
  • Mae’n bosib osgoi cynnal profion ar anifeiliaid. Weithiau gellir cymryd sampl o feinwe’r ymennydd a chynnal profion arno mewn labordai ac mae rhaglenni cyfrifiadurol wrthi’n cael eu datblygu a fydd yn gallu rhagfynegi canlyniadau

Actifyddion hawliau anifeiliaid

  • Mae rhai’n credu nad yw’n deg cynnal profion ar anifeiliaid, ac maen nhw’n ymgyrchu yn eu herbyn. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl hyn yn protestio’n gyfreithlon
  • Mae rhai pobl sydd yn erbyn cynnal profion ar anifeiliaid yn barod i dorri’r gyfraith er mwyn protestio yn eu herbyn, ac i achosi niwed i bobl eraill hyd yn oed
  • Yn y gorffennol, mae actifyddion hawliau anifeiliaid wedi bod yn dreisgar tuag at wyddonwyr sy’n cynnal profion ar anifeiliaid

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50