Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Twf a Datblygiad Economaidd

  • Twf economaidd yw cynnydd yn y swm o arian y mae gwlad yn ei gynhyrchu. Po fwyaf yr arian y mae gwlad yn ei gynhyrchu y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i fyw yn sylfaenol, mwyaf fydd yr arian sydd ar gael i’w wario ar bethau fel gofal iechyd, addysg neu ddiwydiant
  • Cytunir yn gyffredinol y gall twf a datblygiad economaidd wella safonau byw pobl
  • Er hynny, dyw twf economaidd ddim yn golygu safonau byw gwell i bawb, oherwydd nad yw cyfoeth y wlad wedi’i rannu’n gyfartal
  • Mae economïau sydd ar dwf yn gyflym yn cynnwys Tsieina ac India
  • Mae gan beth twf economaidd oblygiadau ar gyfer materion amgylcheddol, fel newid yn yr hinsawdd. Mae gan Tsieina, er enghraifft, gofnod gwael o ran lefelau llygredd
  • Os nad yw gwlad yn sefydlog yn wleidyddol, gall twf economaidd gael ei effeithio yn aml. Dyma’r rheswm pam mae rhai gwledydd tlawd yn ei chael yn anodd tyfu’n gyflym
  • Mae ’datblygiad’ economaidd ychydig yn wahanol i ’dwf’ economaidd. Mae’n ymwneud â gwelliannau cymdeithasol fel argaeledd addysg a gofal iechyd
  • Mae rhai pobl wedi dechrau beirniadu twf economaidd fel arwydd o ddatblygiad, ac yn meddwl y dylid ystyried ffactorau eraill fel ansawdd bywyd
  • Mae llawer o wledydd tlawd wedi benthyg symiau mawr o arian o wledydd mwy cyfoeth i geisio hybu twf economaidd
  • Mae dyledion gan y gwledydd mwy cyfoethog hefyd, oherwydd bod benthyg arian yn ffordd hanfodol o hybu twf economaidd. Benthycodd Prydain arian oddi wrth yr Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a dim ond yn 2006 y gorffennodd dalu’r arian i gyd yn ôl
  • Mae’n rhaid i rai gwledydd ddefnyddio’r holl arian maen nhw’n ei gynhyrchu o dwf economaidd ar ad-dalu dyledion i wledydd y gorllewin.
  • Mae Togo, sy’n wlad yn Affrica, yn talu 83 y cant o’i incwm cenedlaethol ar ad-dalu dyledion
  • Cafwyd sawl ymgyrch proffil uchel yn gofyn i ddileu dyledion sydd ar wledydd tlawd i wledydd cyfoethog. Mae llawer o bobl yn credu y bydd hyn yn helpu y gwledydd tlotaf i ddatblygu

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50