Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Tlodi
Yn yr Adran Hon
- Clonio a Geneteg
- Labelu Cynnyrch
- Twf Poblogaeth
- Tlodi
- Y Cenhedloedd Unedig
- Twf a Datblygiad Economaidd
- Masnach Deg
- Bwyd Organig
- Trafnidiaeth
- Newyn a Sychder
- Cynnal Profion ar Anifeiliaid
- Hela
- Allfudo Anifeiliaid Byw
- Bwydydd sydd wedi'u haddasu'n enetig
- Mynediad i Dir a Hawl i Grwydro
- Llygredd
- Ailgylchu
- Hawliau Dynol
- Mae llawer o bobl ledled y byd yn dlawd iawn, yn enwedig mewn gwledydd datblygol
- Mae 1.1 biliwn o bobl y byd yn byw ar lai na 55c y diwrnod ac mae 2.7 biliwn arall yn byw ar lai na £1.10
- Mae bod yn dlawd yn golygu mwy na pheidio â chael digon o fwyd. Gall hefyd arwain at lawer o broblemau cymdeithasol eraill
- Does gan lawer o wledydd tlawd ddim digon o ysgolion ac ni all nifer o bobl y gwledydd hyn ddarllen nac ysgrifennu. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl dlawd yn cael trafferth yn dod o hyd i swydd
- Mae cael gofal iechyd a moddion fforddiadwy yn fater pwysig iawn yn Affrica lle mae un person o bob tri yn dioddef o AIDS mewn rhai gwledydd
- Yn aml, nid oes disgwyl i bobl dlawd fyw mor hir â phobl yng ngwledydd y gorllewin. Yn y rhan fwyaf o wledydd Affrica y disgwyliad oes yw 50 mlwydd oed, o gymharu â 77 mlwydd oed yng Nghymru
- Gall effaith rhyfel a thrychinebau naturiol fel sychder arwain at dlodi. Mae llywodraeth pob gwlad yn gyfrifol am ddosbarthu arian y wlad honno, ond weithiau dydy’r arian ddim yn cael ei wahanu’n gyfartal
- Mae’n debyg bod tlodi yn ein byd heddiw yn lleihau - mae pobl ledled y byd yn byw’n hwy nag y gwnaethant 50 mlynedd yn ôl a gall mwy o bobl ddarllen ac ysgrifennu. Serch hynny, mae tlodi’n achosi traean o farwolaethau yn y byd, yn enwedig ymhlith plant bach
- Dydy cyfoeth y byd ddim wedi’i wahanu’n gyfartal. Mae gan y tri pherson mwyaf cyfoethog fwy o arian na’r 600 miliwn o bobl dlotaf at ei gilydd
Tlodi yng Nghymru
- Er na fydd llawer o bobl yng Nghymru’n cael eu hystyried yn dlawd ar gyfradd fyd-eang gan ein bod ni’n byw yn un o wledydd mwyaf cyfoethog y byd, mae tlodi’n dal i fodoli yng Nghymru a’r DU
- Ystyrir bod 11.4 miliwn o bobl ym Mhrydain yn dioddef o dlodi, ac mae tua 10 y cant o bobl ifanc yn ddi-waith
- Mae rhai o ardaloedd mwyaf amddifadus Ewrop i’w cael yng Nghymru. Mae prif ddiwydiannau Cymru wedi dioddef yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, fel cloddio glo a gwaith dur sydd wedi cyfrannu at gyfraddau tlodi
- Mae digartrefedd wedi tyfu’n sylweddol yng Nghymru, gyda niferoedd o dai’r digartref, a all roi lle i fwy nag un person, yn tyfu o 8,000 yn 2000 i 16,000 yn 2004