Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Bwydydd sydd wedi'u haddasu'n enetig

  • Ers canrifoedd mae pobl wedi dewis planhigion ac anifeiliaid â nodweddion penodol er mwyn mwyhau bridiau - mae hwn yn fodd syml o addasu genetig
  • Mae’r term ’bwyd sydd wedi’i addasu’n enetig’ (neu’r byrfoddau ’GM’/ yn Saesneg) yn cyfeirio at gnydau a gafodd eu tyfu trwy fewnosod genynnau o un planhigyn neu anifail i’r llall, er mwyn rhoi nodweddion newydd arbennig i’r cnawd hwnnw
  • Er enghraifft, efallai bod ffermwr am atal chwyn rhag tyfu yn ei gae trwy chwistrellu chwynladdwr cemegol arnynt. Ond efallai y bydd gwneud hyn yn lladd y cnydau y mae e am eu cadw hefyd. Trwy osod genynnau planhigion sydd ddim yn cael ei ladd gan chwynladdwr mewn i’r cnydau, gall y ffermwr chwistrellu chwynladdwr cemegol heb niweidio’r cnydau hynny

Dadleuon yn erbyn bwydydd GM

  • Nid oes modd rhagdybio canlyniadau addasu’n enetig. Mae rhai’n poeni y bydd croesbeillio (’crosspollination’) gyda rhywogaethau eraill yn creu ’uwch-chwyn’ sydd â genynnau cnydau GM na all gael eu lladd gyda chemegau confensiynol
  • Hefyd, mae sawl yn poeni am effaith bwydydd GM ar iechyd pobl. Gall y genynnau sy’n cael eu trawsblannu ddod o blanhigion neu anifeiliaid sydd erioed wedi bod yn y gadwyn fwyd felly mae’n bosib y bydd hyn yn creu problemau iechyd
  • Mae pobl yn poeni nad oes ymchwil hirdymor wedi bod ar effaith bwydydd GM ac ni fyddwn yn gwybod am broblemau posib hyd nes y bydd hi’n rhy hwyr

Dadleuon o blaid bwydydd GM

  • Mae rhai pobl yn dweud bod cnydau GM yn llai niweidiol i’r amgylchedd gan eu bod yn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrteithiau (’ fertilisers’) cemegol ac yn creu mwy o fwyd ar ddarn llai o dir
  • Gellir addasu cnydau er lles pobl. Mae math o reis o’r enw ’Golden Rice’ yn cynnwys mwy o gemegyn y mae’r corff yn ei droi’n Fitamin A. Gall diffyg Fitamin A achosi dallineb a phroblemau iechyd cyffredinol
  • Mae pobl sydd o blaid bwydydd GM yn dweud bod y cnydau’n cael eu profi i sicrhau eu bod yn ddiogel yn amlach na bwydydd sydd ddim wedi’u haddasu’n enetig, ac nid oes tystiolaeth hyd yn hyn sy’n dangos bod bwydydd GM yn achosi niwed i ni

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50