Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Bwyd Organig
- Mae bwyd organig yn derm sy’n disgrifio cnydau sydd wedi’u tyfu heb wrteithiau artiffisial neu blaleiddiaid a chig gan anifeiliaid sydd heb dderbyn symiau mawr o feddyginiaethau
- Mae plaleiddiaid yn gemegau sy’n lladd pryfed ac maen nhw i’w cael mewn llawer o’r ffrwythau a’r llysiau anorganig rydym ni’n eu bwyta
- Mae ffermio organig hefyd yn ceisio lleihau effeithiau ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd
- Yn aml, mae cemegau yn cael effaith niweidiol ar gefn gwlad. Mae nifer yr adar sy’n byw ar dir fferm wedi lleihau gan 95 y cant mewn rhai ardaloedd ers i blaleiddiaid ddechrau cael eu defnyddio’n rheolaidd
- Mae triniaethau cemegol ar gyfer cnydau yn gallu mynd i mewn i’r cyflenwad dŵr, ac mae £120 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar dynnu cemegau o’r dŵr
- Dyw ’organig’ ddim yn golygu tyfu heb blaleiddiaid yn unig. Mae hefyd yn golygu nad yw bwydydd fel bisgedi neu rawnfwydydd, yn cynnwys ychwanegion fel braster hydrogenedig neu felysyddion artiffisial
- Mae cig organig yn cynnwys lefelau isel o feddyginiaethau gwrthfiotig. Mae rhai pobl yn meddwl y bydd lefelau uchel o wrthfiotig mewn bwyd yn llai effeithiol wrth ymladd yn erbyn afiechydon mewn pobl pan fydd gwirioneddol eu heisiau
- Mae’r nod organig ar fwyd hefyd yn gwarantu lles anifeiliaid. Er enghraifft, daw wyau organig o ieir sy’n rhydd i grwydro
- Mae grwpiau organig hefyd yn dweud bod bwyd organig yn blasu’n well, ac yn cynnwys mwy o fitaminau a mwynau