Gwybodaeth » Amgylchedd » Pobl » Twf Poblogaeth
- Mae poblogaeth y ddaear wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Poblogaeth y byd bellach yw bron i chwe biliwn, ac mae arbenigwyr yn credu y bydd hyn yn tyfu i naw biliwn erbyn 2050
- Ond bydd y twf hwn yn dod i ben ac mae arbenigwyr yn rhagfynegi y bydd lefelau poblogaeth yn sefydlogi neu’n dechrau gostwng hyd yn oed
- Y brif broblem sy’n gysylltiedig â thwf mewn poblogaeth yw ei fod yn rhoi straen ar adnoddau’r byd. Er enghraifft, dim ond rhywfaint arbennig o dir sydd ar gael i dyfu bwyd ynddo, ac mae llawer o hyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu diwydiannau a dinasoedd
- Mae hyn yn broblem fawr mewn gwledydd datblygol, lle mae’r boblogaeth yn tyfu gyflymaf, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn dioddef waethaf o’r prinder bwyd posib. Yn aml mae pobl yn y gwledydd hyn yn dlawd iawn a ni allant fforddio prynu rhagor o fwyd
- Mae’r straen ar gyflenwad dŵr hefyd yn peri pryder. Amcangyfrifir y bydd bron i hanner poblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd lle mae dŵr yn brin erbyn 2025
- Mae rhai grwpiau’n credu bod rhaid rheoli twf poblogaeth ac un ffordd o wneud hyn yw trwy roi cyfle i fenywod ddefnyddio dulliau atal cenhedlu effeithiol