Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Lleisiau a Dewisiadau



Lleisiau a Dewisiadau

Mae Llywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Plant Cymru yn meddwl dylai plant sydd ag anghenion addysgol arbennig gael yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC). Dylai plant gael yr hawl yma pam bydd eu rhieni yn penderfynu peidio apelio eu hunain.

I weld sut mae'r hawliau yma yn gweithio maent yn cael eu harbrofi mewn dwy ardal – Wrecsam a Sir Gaerfyrddin.

Mae plant a phobl ifanc sydd yn byw yn ardal awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam efo'r hawl i:

  • Apelio penderfyniadau penodol sydd yn cael ei wneud gan eu hawdurdod lleol am eu hanghenion addysgol arbennig nhw
  • Dod a chais yn erbyn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a Wrecsam am wahaniaethu ar sail anabledd

Unwaith bydd yr arbrawf wedi gorffen mae disgwyl bydd plant a phobl ifanc dros Gymru yn gallu gwneud apêl a hawliad eu hunain.

Mae'r hawliau apêl a hawliad yn union yr un fath â'r rhai sydd yn bodoli eisoes i rieni/gofalwyr. Dydy hyn ddim yn effeithio ar hawl rhieni i wneud apêl a hawliad. Yr unig beth y mae'n ei olygu ydy fod gan blant bellach yr un hawliau â'u rhieni/gofalwyr i wneud apêl a hawliad eu hunain.

Mae'r gyfraith yn cydnabod na fydd pob plentyn yn teimlo'n ddigon galluog i wneud apêl neu hawliad. Mewn sefyllfa o'r fath gall ffrind achos weithio ar ran y plentyn i wneud apêl neu hawliad i'r TAAAC.

Gall ddarganfod gwybodaeth i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr a ffrindiau achos mewn llyfrynnau canllaw gellir eu lawr lwytho trwy ddilyn y ddolen yma i wefan Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru: http://sentw.gov.uk/youngpeople/informationbooklets/?skip=1&lang=cy

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50