Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Cod Ymarfer
Yn yr Adran Hon
Cod Ymarfer
Mae yna God Ymarfer ar gyfer anghenion addysgol arbennig sy’n darparu canllawiau a chyngor ymarferol i Awdurdodau Addysg Lleol (AALl), ysgolion a gynhelir a lleoliadau addysg blynyddoedd cynnar, iddyn nhw weithredu eu dyletswyddau statudol.
Mae Cod Ymarfer AAA Cymru’n dweud:
- Dylai anghenion plentyn sydd ag AAA gael eu diwallu
- Fel rheol caiff eu hanghenion eu diwallu mewn ysgolion neu sefydliadau prif ffrwd
- Dylai barn y plentyn gael ei gymryd i ystyriaeth
- Mae gan rieni rôl hollbwysig i’w chwarae wrth gefnogi addysg eu plentyn
- Dylid cynnig cyfle llawn i blant sydd ag AAA gael addysg eang, gytbwys a pherthnasol, wedi’i seilio ar y Cwricwlwm Cenedlaethol