Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth Mewn Addysg Uwch



Cefnogaeth mewn Addysg Uwch

Os oes gen ti anghenion arbennig ac angen cefnogaeth ychwanegol i alluogi ti i wneud y mwyaf o Addysg Uwch, efallai bydd ychydig o faterion ychwanegol i ti gysidro a bydd rhaid gofyn cwestiynau am gyrsiau a chyfleusterau.

Bydd gan bob prifysgol ddatganiad anabledd ac aelod o staff sydd yn gyfrifol am drefnu cefnogaeth i fyfyriwr gydag anableddau.

Wrth ddewis prifysgol dyma rhai o'r prif faterion dylet ti eu hystyried:

  • Pa gyrsiau sydd ar gynnig
  • Cynnwys y cyrsiau a sut fyddan nhw’n cael eu hasesu
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr anabl - bydd gan bob prifysgol aelod o staff sy’n gyfrifol am drefnu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr anabl. Gall lefel y gefnogaeth a gynigir amrywio rhwng prifysgolion
  • Pa mor bell oddi cartref wyt ti'n barod i fynd
  • Pa mor fawr/fach yw’r brifysgol
  • P’un a hoffet ti fyw mewn tref, dinas, ardal fwy gwledig ac ati
  • Pa mor hawdd yw hi i deithio o amgylch yr ardal
  • Pa gyfleusterau eraill sydd gan y brifysgol a pha mor hygyrch yw’r safle
  • Pa fath o lety sydd ganddyn nhw - oes yna unrhyw gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr anabl
  • Oes yna fyfyrwyr anabl eraill yno neu wedi bod yno’n ddiweddar

Lwfans Myfyrwyr Anabl

  • Os oes gen ti anabledd ac yn gwneud cais am addysg uwch (prifysgol), mae’n bosib y gallet ti hawlio Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
  • Mae’r lwfans yma’n cael ei hawlio oddi wrth yr awdurdod lleol
  • Byddan nhw’n gofyn am dystiolaeth o dy anabledd ac mae’n bosib y byddan nhw am i ti gael asesiad
  • Gellir defnyddio’r arian i dalu am staff i gefnogi ti, am offer, neu am gostau cludiant sy’n ymwneud ag anabledd
§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50