Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Colegau Preswyl Arbenigol
Yn yr Adran Hon
Colegau Preswyl Arbenigol
I nifer bach iawn o bobl ifanc, efallai nad yw mynd i goleg lleol pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol yn opsiwn cywir.
Mae colegau lleol yn cynnig ystod eang o gyrsiau a chefnogaeth ond weithiau ni allan nhw gynnig cwrs sydd efo'r gefnogaeth angenrheidiol. Yn yr achosion hyn mae’n bosib y bydd person ifanc yn gallu ystyried mynd i goleg oddi cartref. Colegau arbenigol yw’r enw ar y rhain. Mae hyn yn golygu bod y staff wedi’u hyfforddi i gynnig lefel uchel o gefnogaeth ar gyfer pobl ifanc ag anableddau.
Beth os ydw i eisiau mynd i goleg arbenigol?
- Gallet ddewis mynd i goleg fel hyn oddi cartref, ond dim ond os nad yw’r coleg lleol yn gallu cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnat ti
- Bydd dy gynghorydd gyrfa yn siarad efo ti am y colegau a allai o bosib ymateb i dy anghenion di orau a sut i wneud cais amdanyn nhw
- Byddai angen i ti drefnu i ymweld â’r coleg(au). Yna bydden nhw’n gofyn i ti fynd yno eto ac aros dros nos er mwyn i ti ddod i wybod mwy am y coleg ac er mwyn iddyn nhw ddod i wybod mwy amdanat ti
- Yna os wyt ti am fynd i’r coleg hwn, byddai angen i dy gynghorydd gyrfa wneud cais am yr ariannu i ti, ond nid yw’n cael ei roi ym mhob achos
- Byddai angen i ti fyw oddi cartref yn ystod y tymor a dod adref yn ystod y gwyliau ac ar rai penwythnosau
- Gallet ti aros yn y coleg am hyd at 3 blynedd