Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Cludiant
Yn yr Adran Hon
Cludiant
Mae plant a phobl ifanc gyda 'anghenion addysgol arbennig' (AAA) yn gallu cael cymorth gan Awdurdodau Addysg Lleol (AALl) gyda chostau cludiant trwy gydol eu haddysg.
Ysgol
- Os wyt ti'n cael tacsi i’r ysgol hyd at 16 oed, dylai hyn barhau os byddi di’n penderfynu mynd yn ôl i’r ysgol ar gyfer blwyddyn 12
- Mae gan bob awdurdod addysg lleol (AALl) ei bolisi ei hun ar gludiant, felly byddai’n werth gwirio’r polisi ar gyfer dy awdurdod di
Coleg
- Mae gan yr AALl gyfrifoldeb dros gludiant ar gyfer pobl hyd at 19 oed
- Bydd angen i ti wirio’r polisi ar gyfer dy AALl, gan ei bod yn bosib nad ydyn nhw i gyd yn darparu tacsi i fyfyrwyr anabl fynd i’r coleg
- Os wyt ti dros 19 oed, eisiau mynychu coleg lleol ac angen tacsi i gyrraedd y coleg bydd angen i ti siarad â’r coleg wrth wneud cais
- Mae rhai colegau’n defnyddio arian o’r enw Cronfa Ariannol Wrth Gefn i helpu myfyrwyr anabl â chostau cludiant
- Weithiau mae’n bosib cael cefnogaeth ar gyfer costau tacsi gan wasanaethau cymdeithasol os oes gen ti weithiwr cymdeithasol
Coleg Preswyl
- Os wyt ti'n mynd i goleg preswyl arbenigol, ac yn llai nag 19 oed, yna bydd angen i ti ddarganfod os fydd dy AALl yn ariannu cludiant i ti ar ddechrau ac ar ddiwedd pob tymor
- Os wyt ti eisiau dod gartref yn ystod y tymor, bydd angen i ti dalu am hyn
Prifysgol
- Os oes angen i ti gael tacsi i’r brifysgol, mae’n bosib y byddi di’n gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl
- Bydd rhan o hwn yn cwmpasu unrhyw gostau ychwanegol y bydd yn rhaid i ti eu talu am gludiant o ganlyniad dy anabledd.