Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Cynllunio Pontio
Yn yr Adran Hon
Cynllunio Pontio
Pan fydd gan blentyn ddatganiad anghenion arbennig, mae’n rhaid creu Cynllun Pontio sydd yn dod â'r holl wybodaeth angenrheidiol ynghyd i gynllunio ar gyfer pan fydd y person ifanc yn symud i fywyd oedolyn.
- Yn ddelfrydol dylai hwn fod yn gyfnod o greadigedd gyda dewisiadau eang ac yn cael ei arwain yn bennaf gan y bobl ifanc a'u teuluoedd
- Dylai pontio gael ei selio ar y syniad bod pobl ifanc gydag anableddau dysgu yn byw mewn cymunedau cynhwysol
- Dylai addysg a chynllun pontio annog a chefnogi cyflogaeth fel y bydd pobl ifanc efo lle yn eu cymunedau
- Mae'n rhaid i rieni ac asiantaethau eraill sydd â rhan fawr ym mywyd ôl-ysgol y person ifanc (e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, Pobl Broffesiynol ym maes Iechyd, Gyrfa Cymru) fod yn rhan o'r broses o lunio'r Cynllun Pontio
- Mae'n rhaid adolygu'r Cynllun Pontio yn flynyddol nes i'r person ifanc adael yr ysgol
- Dylai Cynlluniau Pontio gynnwys nid yn unig trefniadau ôl-ysgol, ond dylen nhw hefyd gynllunio ar gyfer help parhaus yn yr ysgol fel y nodwyd yn y datganiad anghenion addysgol arbennig
- Dydy pontio ddim yn ymwneud â chynllunio gwasanaethau, mae'n ymwneud â chynllunio bywydau. Mae'n rhaid cael canlyniadau realistig i'r bobl ifanc sydd yn darparu dewisiadau a chyfleoedd go iawn