Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth yn y coleg



Cefnogaeth yn y Coleg

Bydd gan y rhan fwyaf o golegau gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc gydag anableddau i wella sgiliau sylfaenol, bod yn fwy hyderus a rhoi cynnig ar amrywiaeth o gyrsiau ymarferol i ddarganfod beth fydden nhw'n hoffi'i wneud.

Yn aml mae'r cyrsiau hyn gyda theitlau megis Paratoi Galwedigaethol.

Os wyt ti eisoes yn gwybod pa gwrs rwyt ti eisiau’i ddilyn ond bod angen cefnogaeth arnat ti, gall y coleg wneud cais am arian i roi’r gefnogaeth ar waith.

Dyma'r math o gefnogaeth gallai fod ar gael:

  • Rhywun i gymryd nodiadau i ti
  • Rhywun i ddarllen gwybodaeth i ti
  • Help i drefnu dy waith
  • Gliniadur
  • Help wrth fwyta
  • Help i fynd o gwmpas y coleg

Siarada gyda dy gynghorydd gyrfa am y gefnogaeth gallet ti ei gael yn y coleg.

Am wybodaeth bellach: https://www.gov.uk/rights-disabled-person/education-rights

§

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50