Gwybodaeth » Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant » Anghenion Addysgol Arbennig » Cefnogaeth yn yr Ysgol
Yn yr Adran Hon
Cefnogaeth yn yr Ysgol
Mae sawl ffordd gall yr ysgol roi cefnogaeth i ti, yn dibynnu ar beth wyt ti ei angen. Efallai bydd rhaid i ti gael asesiad fel bod yr ysgol yn gallu darganfod dy anghenion di a sut y gallan nhw, neu bobl eraill, dy helpu.
Yn dibynnu ar dy amgylchiadau efallai bydd rhaid ysgrifennu dy anghenion di mewn Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig.
Mae yna God Ymarfer yng Nghymru sy'n amlinellu’r hyn y dylai ysgolion ac awdurdodau addysg lleol ei wneud pan fydd angen cefnogaeth ar rywun yn yr ysgol.
Bydd y gefnogaeth a ellir ei rhoi ar gyfer dysgu yn amrywiol, ond gallai gynnwys:
- Rhywun i gymryd nodiadau i ti
- Rhywun i ddarllen gwybodaeth i ti
- Help i drefnu dy waith
- Gliniadur
Os wyt ti'n teimlo bod gwir angen cefnogaeth gyda dy addysgu yn yr ysgol yna mae angen i ti, neu dy rieni, siarad gydag un o dy athrawon neu â’r cydlynydd anghenion arbennig (a elwir yn SENCO).
Cefnogaeth bersonol yn yr ysgol
Gall rhai myfyrwyr hefyd gael cefnogaeth gofal personol. Gallai hyn gynnwys:
- Help wrth fwyta
- Help wrth symud o gwmpas yr ysgol
- Help wrth fynd i’r toiled neu wrth newid
Am wybodaeth bellach: https://www.gov.uk/rights-disabled-person/education-rights