Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Y Mislif a PMS



Y Mislif a PMS

Mislif

  • Mislif yw’r adeg pan fydd gwaed yn pasio trwy’r fagina. Bydd yn cychwyn yn ystod y glasoed, fel arfer rhwng wyth ac 16 oed er bod y mwyafrif o enethod yn dechrau o gwmpas 12
  • Pan fydd merched yn cael eu geni, fe fydd ganddyn nhw filoedd o wyau y tu mewn i'w hofarïau. Pan fyddi di’n cyrraedd y glasoed, bydd un wy yn cael ei ryddhau o’r ofarïau bob mis, a bydd yn teithio trwy’r tiwb Ffalopaidd i mewn i’r croth. Gweler adran Glasoed
  • Bob mis, bydd dy gorff yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddod yn feichiog a daw ei leinin yn drwchus ac yn feddal, yn barod ar gyfer babi. Gweler adran Beichiogrwydd
  • Os na fydd yr wy yn cael ei ffrwythloni, bydd y corff yn rhoi gwybod i’r leinin a bydd yr wy yn dod allan o'r corff trwy'r fagina ar ffurf mislif. Mae’r wy yn rhy fach i’w weld â’r llygad noeth
  • Yna bydd y broses yn dechrau eto. Cylchred y mislif yw’r enw ar yr amser rhwng un mislif a’r nesaf, a gall hwn amrywio o’r naill ferch i’r llall. Bydd fel arfer yn cymryd rhyw fis, er yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf fe all fod yn fwy afreolaidd Bydd y mislif yn para rhwng dau ac wyth diwrnod fel arfer, ond mae pawb yn wahanol
  • Gall fod yn beth cyffrous a brawychus cael dy fislif cyntaf, felly ceisia siarad â dy fam, gwarcheidwad neu ferch sy’n oedolyn – fe fyddan nhw’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i ti
  • Mae mislif merch yn parhau nes diwedd y mislif, sydd fel arfer yn digwydd yn dy bedwardegau hwyr i ganol y pumdegau
  • Mae dy gorff yn cynhyrchu swm gwahanol o hormonau ar wahanol gyfnodau yn ystod cylchred y mislif. Gallai hyn achosi newidiadau yn dy gorff ac emosiynau

Cynhyrchion ar gyfer y mislif

  • Yn ystod y mislif, bydd angen cynhyrchion fel tamponau neu dyweli arnat ti. Gall brynu’r rhain mewn unrhyw archfarchnad, siop leol ac mewn rhai toiledau cyhoeddus
  • Mae tyweli yn amsugno'r gwaed wrth iddo adael y corff wrth lynu ar du mewn dy ddillad isaf
  • Mae tamponau yn ffitio i mewn yn y fagina i amsugno’r gwaed cyn iddo adael y corff
  • Mae'n ddewis personol pa gynnyrch rwyt ti am ei ddefnyddio
  • Mae’n rhaid newid tyweli a thamponau sawl gwaith y dydd, bob rhyw bedair awr fel arfer, a chofia bob amser i olchi dy ddwylo cyn ac ar ôl gwneud hynny
  • Os wyt ti'n cael brech, dolur gwddf, cur pen, gwres sydyn neu ddolur rhydd, neu os wyt ti’n cyfogi, rho'r gorau i ddefnyddio tamponau ar unwaith a cher i weld y meddyg yn syth – mae’n bosib dy fod di’n dioddef o haint facteriol o'r enw Syndrom Sioc Wenwynig, sy'n gallu bod yn ddifrifol iawn

Syndrom Cyn Mislif (PMS)

    PMS yw’r symptomau corfforol a seicolegol y gall merch ddioddef ohonyn nhw ychydig cyn i’w mislif ddechrau, a bydd y rhain yn tueddu i wella unwaith y bydd y gwaedu’n cychwyn. Mae’n effeithio ar un ferch o bob tair, ac ystyrir ef yn gyflwr meddygol

    Symptomau

    Mae yna fwy na 150 o symptomau PMS, gan gynnwys:

    • Iselder a chynnwrf
    • Bronnau tyner
    • Dargadw hylif a theimlo wedi chwyddo
    • Hwyliau’n newid a theimlo’n flin
    • Cur pen
    • Newidiadau i’r croen a’r gwallt (fel sbotiau a gwallt seimllyd)

    Nid oes neb yn gwybod union achos PMS ond y gred yw bod cysylltiad rhyngddo a newidiadau i’r hormonau yn y corff cyn mislif

    Mae yna ffyrdd o leddfu symptomau PMS, gan gynnwys:

    • Diet heb lawer o halen, braster a chaffein
    • Fitaminau B6 ac E
    • Olewau blodau fel Olew Melyn yr Hwyr (Oil of Evening Primrose)
    • Y bilsen atal cenhedlu (siarada gyda meddyg yn gyntaf)

    Os wyt ti'n dioddef o PMS eithafol neu rai o’i symptomau, cer i weld y Meddyg Teulu.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50