Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Anallu Rhywiol
Yn yr Adran Hon
Anallu Rhywiol
Anallu Rhywiol neu Drafferthion Cael Codiad (ED) yw’r enwau ar y sefyllfa pan fydd dyn yn methu â chael codiad, neu gynnal codiad, ar gyfer rhyw. Gall problemau corfforol neu seicolegol ei achosi.
- Ymhlith y pethau corfforol a allai ei achosi mae diabetes, problemau â’r thyroid, pwysau gwaed uchel, ysmygu’n drwm a rhai meddyginiaethau
- Ymhlith y pethau seicolegol a allai ei achosi mae iselder, straen, pryderon ynglŷn â pherthnasoedd neu bryderon rhywiol fel pryder ynglŷn â defnyddio condom
I leihau’r risg o ED, ceisia osgoi ysmygu a goryfed, gofalu bod â diet iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd. Os yw'r rhesymau yn rhai seicolegol, ceisia siarad â dy bartner neu gwnsler rhyw.
Paid â theimlo embaras – mae ED yn effeithio’n gyson ar dros 5 miliwn o ddynion yn y DU, felly nid wyt ti ar ben dy hun ac mae yna ffyrdd o drin y broblem.
Mae yna driniaethau ar gael gan gynnwys pympiau gwactod, mewnblaniadau i’r pidyn, therapi pelenni mewnwrethrol ac, yn fwy diweddar, meddyginiaeth i’w chymryd trwy’r geg.