Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Hunaniaeth Rhyw
Yn yr Adran Hon
Hunaniaeth Rhyw
Hunaniaeth rhyw ydy pan fydd person yn dynodi pa ryw maent yn credu ydynt ac nid yw o reidrwydd y rhyw cafodd ei neilltuo iddynt pam ganwyd.
Yn draddodiadol roedd hunaniaeth rhyw yn un ai'n gwryw neu fenyw er bod y mwyafrif o gymdeithas heddiw wedi symud o'r system ddeuaidd ac wedi derbyn bod yna drydydd rhyw i bobl sydd ddim o reidrwydd eisiau cael eu hadnabod fel un rhyw.
Mae yna rai pobl drawsrywiol sydd yn dweud eu bod yn deffro un bore yn teimlo fel dyn ac ar ddiwrnod arall fel dynes. Gall hyn arwain at ddryswch yn enwedig wrth drawsnewid o un rhyw i un arall, er enghraifft mae dyn sydd wedi newid rhyw ond yn teimlo atyniad rhamantus tuag at ferch yn dod yn lesbiad oherwydd dydy'r tueddfryd rhywiol ddim wedi newid.
Trawsryweddol
Mae trawsryweddol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unigolion lle nad yw eu rhyw yn cydweddu eu corff. Mae trawsryweddol yn derm ambarél ac yn cynnwys trawsrywiol, trawswisgwr, croes-wisgwr a 'genderqueer' ymysg eraill.
Trawsrywiol
Gellir adnabod hwn hefyd fel anesmwythder rhyw. Mae hyn pan fydd unigolyn efo teimladau o berthyn i wahanol ryw neu ddewis byw mewn gwahanol ryw. Mae llawfeddygaeth yn opsiwn i'r trawsrywiol, ond nid yw pob person trawsrywiol yn dewis cael llawfeddygaeth.
Androgynedd
Yn nhermau hunaniaeth rhyw, androgynedd ydy pan fydd rhywun ddim yn ffitio i mewn i'r rolau rhyw wrywaidd neu fenywaidd nodweddiadol.
Pangender
Term ar gyfer y rhai sydd ddim eisiau cael eu labelu fel bod yn fenywaidd na gwrywaidd, gan eu bod yn teimlo nad ydynt yn ffitio i mewn i ryw ddeuaidd am eu bod yn teimlo bod nhw ymhob rhyw.
Cisgender
Os ydy hunan ganfyddiad rhywun o'u rhyw yn cydweddu'r rhyw cawsant eu neilltuo pan ganwyd yna maent yn 'cisgender'.
Ffynonellau: Out & Proud And Living With It: A Guide for young people who identify as LGBT or those questioning their sexuality or gender identity gan Loud & Proud, Norena @ Mardi Gras LHDT Caerdydd Cymru a Wikipedia.