Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Organau Cenhedlu Benywaidd



Organau Cenhedlu Benywaidd

Mae organau atgenhedlu marched yn cynnwys sawl rhan wahanol.

Yn allanol, mae yna:

  • Y gwefusau allanol (labia majora), sydd yn gorchuddio'r clitoris ac yn ymestyn yn ôl i reit o flaen yr anws
  • Y gwefusau mewnol (labia minora) sydd yn ymuno yn y ffrynt mewn lwmp bach cigog gelwir yn clitoris. Ei bwrpas ydy rhoi pleser rhywiol
  • Gall y gwefusau mewnol amrywio mewn lliw o binc golau i frown tywyll
  • Gall y gwefusau allanol neu fewnol fod yn fwy na'i gilydd. Mae hyn yn gwbl naturiol

Yn fewnol, mae yna:

  • Y fagina, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfathrach rywiol ac atgenhedlu
  • Y wrethra, ble mae dŵr yn pasio
  • Yr hymen, croenyn sy'n gorchuddio'r fagina wyryf (heb gael rhyw) sydd yn torri pan fydd rhyw yn digwydd am y tro cyntaf, ond gall yr hymen dorri cyn hynny, yn ystod chwaraeon fel esiampl – gall hyn achosi ychydig bach o waedu ond mae'n beth arferol
  • Y serfics, sef gwddf y groth (womb) sydd yn arwain at y fagina
  • Dau diwb Fallopio, sydd yn cysylltu'r ofarïau a'r groth (uterus)
  • Dau ofari sydd yn cynhyrchu wyau

Prawf Serfigol

  • Mae profion serfigol yn brawf sy'n cael ei gynnig i holl ferched 20 oed a throsodd pob tair i bum mlynedd. Mae'n brawf i edrych ar iechyd y serfics ac nid yn brawf i wneud diagnosis canser y serfics, ond mae yn bwriadu rhwystro canser rhag datblygu
  • Efallai byddi di'n teimlo ychydig o anghysur neu boen – ceisia ymlacio drwy gymryd anadl araf a dwfn, gallai frifo mwy os wyt ti'n tynhau. Os yw'n boenus, dweud wrth y doctor neu'r nyrs yn syth, efallai gallan nhw helpu
  • Siarada gyda dy Feddyg Teulu neu glinig cynllunio teulu am gyngor a gwybodaeth am y weithred
  • Paid gohirio'r prawf serfigol, mae'n rhy bwysig

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50