Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Tueddfryd Rhywiol



Tueddfryd Rhywiol

Hunaniaeth Rywiol: Mae hunaniaeth rywiol yn cynnwys tueddfryd rhywiol unigolyn, eu ffafriaeth, rolau rhyw, a sut maent yn diffinio eu rhywioldeb unigol.

Gall hwn gael ei dorri i lawr yn fras i:

  • heterorywioldeb – rwyt ti'n cael dy ddenu at bobl o'r rhyw arall yn gorfforol, yn rhamantus neu'n rhywiol
  • cyfun rywioldeb (homosexuality) – rwyt ti'n cael dy ddenu at bobl o'r un rhyw yn gorfforol, yn rhamantus neu'n rhywiol
  • anrhywioldeb – nid wyt ti, neu mae gen ti lefelau isel o deimladau atyniad at bobl yn gorfforol, yn rhamantus neu'n rhywiol
  • unrhyw gyfuniad o rain (fel deurywioldeb)

Paid teimlo bod rhaid i ti labelu dy hun, yn aml gall dy dueddiad rhywiol fo yn llifyddol a gallai ddatblygu dros amser.

Efallai dy fod di wedi gweld y termau LHDT, LHDT+ (LGBT) a LGBTQIA. Mae'r rhan LHDT yn sefyll am Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Trawsrywiol.

Lesbiad

Mae lesbiad yn derm defnyddir i ddisgrifio'r atyniad rhywiol a rhamantus rhwng merched. Mae rhai merched sydd yn teimlo atyniad i bartner o'r un rhyw yn ffafrio defnyddio 'hoyw' i ddisgrifio'u tueddiad rhywiol, neu i beidio defnyddio label o gwbl.

Dydy cael un neu fwy o brofiadau rhywiol neu gael teimladau rhamantus tuag at ferch arall ddim yn golygu dy fod di'n lesbiad o reidrwydd. Mae'r groes hefyd yn wir gan fod rhai lesbiaid wedi cael profiadau rhywiol gyda rhywun o'r rhyw arall. Nid oes rhaid i ti gael cariad i fod yn lesbiad ac nid oes rhaid bod wedi cael rhyw efo merch arall i wybod dy fod di'n lesbiad.

Hoyw

Mae hoyw yn derm sydd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r atyniad rhamantus rhwng pobl o'r un rhyw. Mae'n well gan rhai merched sydd yn cael eu denu gan bartner o'r un rhyw, ddefnyddio'r term 'lesbiaid' i ddisgrifio'u tueddfryd rhywiol, neu beidio labelu o gwbl.

Dydy cael un neu fwy o brofiadau rhywiol gyda rhywun o'r un rhyw neu fod wedi mopio â rhywun yn rhamantus ddim o reidrwydd yn golygu dy fod di'n hoyw. Mae'r groes yn wir hefyd, gan fod rhai pobl hoyw wedi cael profiadau rhywiol gyda rhywun o'r rhyw arall. Nid oes rhaid i ti fod â phartner o'r un rhyw i fod yn hoyw ac nid oes rhaid i ti gael rhyw gyda pherson arall o'r un rhyw i wybod dy fod di'n hoyw.

Deurywiol (Bisexual)

Mae deurywioldeb yn golygu fod gen ti'r medr i garu a theimlo atyniad rhywiol tuag at fwy nag un rhyw. Gan ei bod yn arferol i gwestiynu dy rywioldeb, gallet ti fod yn gofyn i ti dy hun os wyt ti'n hoyw, lesbiad, neu'n chwilfrydig.

Efallai bod hyn am dy fod di'n ddeurywiol a ti yn hoffi mwy nag un rhyw. Dydy cael perthynas efo un rhyw ac yna'n cael sawl perthynas efo rhyw arall ddim yn diffinio dy rywioldeb neu'r 'label' defnyddir.

Trawsryweddol (Transgender)

Mae gwybodaeth trawsryweddol ar gael yn yr adran Hunaniaeth Rhyw

Anrhywioldeb (Asexuality)

Person anrhywiol ydy rhywun sydd ddim yn cael profiad o atyniad rhywiol. Ond, nid yw hyn yn golygu bod person anrhywiol ddim yn gallu bod mewn perthynas rhamantus na rhywiol. Mae atyniad rhamantus a rhywiol yn ddau endid gwahanol.

Y tri phrif dueddfryd sydd yn dod o dan y faner anrhywioldeb ydy Anrhywioldeb Anrhamantus, Anrhywioldeb Rhamantus a Rhannol Rhywiol (Demisexual) a 'Grey-A'. Gall ddarganfod gwybodaeth bellach yn yr erthygl yma

Ffynonellau: Out & Proud And Living With It: A Guide for young people who identify as LGBT or those questioning their sexuality or gender identity gan Loud & Proud, Norena @ Mardi Gras LHDT Caerdydd Cymru a Wikipedia.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50