Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Gweithgaredd Rhywiol



Gweithgaredd Rhywiol

Oedran cydsynio ar gyfer cyfathrach rywiol heterorywiol a chyfunrywiol yn Lloegr a Chymru ydy 16 oed.

Golygai hyn ei fod yn anghyfreithlon i gymryd rhan mewn rhyw dreiddgar (penetrative), rhyw geneuol (oral) neu mastwrbio y naill i'r llall o dan 16 oed. Nid yw'r gyfraith yn bodoli i wneud bywyd yn anodd.

Mae'n bodoli i amddiffyn pobl. Mae pawb yn barod am ryw ar oedrannau gwahanol. Ond mae'n rhaid i'r gyfraith gyffredinoli er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus rhag ecsploetiaeth.

  • Mae cyfathrach rywiol yn digwydd pan fydd pidyn dyn yn mynd i mewn i fagina merch. Dyma sut mae'r dynol ryw yn atgenhedlu
  • Mae gweithgaredd rhywiol yn unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â chyfathrach rywiol
  • Yn ystod gweithgaredd rhywiol, efallai byd y dyn a/neu'r ddynes yn cael orgasm. Mae hyn yn deimlad dwys pleserus
  • Yn ystod orgasm, gallai dyn gael alldafliad (ejaculation) a rhyddhau semen o ben ei bidyn. Gweler adran Organau Cenhedlu Gwryw am wybodaeth bellach
  • Gall sberm sydd yn dod o'r pidyn fynd i mewn i'r fagina os nad oes dull atal cenhedlu yn cael ei ddefnyddio, fel condomau. Gweler adran Atal Genhedlu am wybodaeth bellach
  • Os nad yw'r sberm yn wynebu rhwystr byddant yn nofio trwy wddf y groth (cervix), i mewn i'r groth (womb) ac i mewn i'r tiwbiau Ffalopaidd. Os oes wy yn y tiwb, bydd y sberm yn ceisio'i ffrwythloni. Os ydynt yn llwyddiannus, bydd y ferch yn dod yn feichiog. Gweler adran Beichiogrwydd am fanylion pellach
  • Y ffordd gorau i osgoi beichiogrwydd digroeso ydy i beidio cael rhyw. Mae cyplau sydd yn dewis cael rhyw yn gallu defnyddio dulliau atal genhedlu, sydd hefyd yn gallu atal heintiau a drosglwyddir drwy ryw, ond mae'n rhaid iddynt gofio nad oes unrhyw ddull yn llwyddiannus 100% yn gwneud yr un o'r tasgau hyn
  • Heblaw am yr oedran cydsynio cyfreithiol (16), nid oes 'oedran cywir' i gael rhyw am y tro cyntaf. Mae nifer o bobl yn disgwyl nes maent yn teimlo'n barod ac efo partner sefydlog
  • Pa bynnag oed wyt ti'n teimlo sy'n gywir, mae'n bwysig cofio bod rhyw yn gallu golygu beichiogrwydd a ti angen bod yn barod am hynny
  • Mae'r penderfyniad pryd i gael rhyw yn bwysig ac ni ddylet ti deimlo pwysau i wneud dim
  • Cofia pan mae dy ffrindiau di'n dweud eu bod nhw wedi cael rhyw, efallai nad ydynt yn dweud y gwir
  • Dy gorff di ydyw, felly dy benderfyniad di ydyw. Gwna'n sicr dy fod di'n barod, dweud wrth rywun ti'n gallu ymddiried ynddynt a chael y dull atal cenhedlu cywir cyn i ti fynd ymhellach
  • Cofia, mae'n anghyfreithlon cael rhyw o dan 16 oed

Gweithgareddau rhywiol eraill

  • Rhyw geneuol ydy pan fydd un person yn defnyddio ei geg a'i dafod i gyffroi organau cenhedlu person arall
  • Mastwrbio ydy pan ti'n cyffwrdd organau cenhedlu dy hun neu rywun arall i roi pleser
  • Mae rhyw rhefrol treiddiol (penetrative anal sex) yn digwydd pan fydd pidyn dyn ar ei godiad, neu fys neu rywbeth yn cael ei roi i mewn i anws person arall

Os wyt ti'n poeni am ryw, atal cenhedlu neu feichiogrwydd, yna siarada gyda rhywun fedri di ymddiried ynddynt neu ymwela â'r Meddyg Teulu neu glinig cynllunio teulu. Maent yno i wrando a rhoi cyngor.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50