Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Atal Cenhedlu
Yn yr Adran Hon
Atal Cenhedlu
I osgoi mynd yn feichiog, dylai bob amser ddefnyddio rhyw ddull atal cenhedlu yn ystod rhyw, ond dydy'r mwyafrif ddim yn amddiffyn ti o heintiau trosglwyddir drwy ryw (STIs).
Mae yna lawer o wahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu a bydd gwahanol ddulliau yn addas i wahanol bobl.
Cofia nad oes unrhyw ddull atal cenhedlu sy’n effeithiol 100%.
Condomau Gwrywaidd
- Wedi’i wneud o latecs tenau iawn, bydd condom yn cael ei osod dros y pidyn pan fydd ar ei godiad i atal sberm rhag mynd i mewn i fagina'r ferch
- Mae condomau yn effeithiol 98% os byddan nhw’n cael eu defnyddio’n iawn
- Fe allan nhw amddiffyn partneriaid rhag mynd yn feichiog a'u hamddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw, fel HIV - gweler adran Heintiau a Drosglwyddir Trwy Ryw (STIs)
- Mae condomau ar gael yn rhad ac am ddim mewn unrhyw glinig cynllunio teulu, clinig iechyd rhywiol a llefydd sydd yn cymryd rhan yn y Cynllun Cerdyn C
- Gall hefyd prynu condomau mewn fferyllwyr, archfarchnadoedd a pheiriannau gwerthu mewn toiledau
- Mae’n rhaid defnyddio condom newydd bob tro byddi di'n cael rhyw
- Dylai dim ond defnyddio condomau gyda Nod Barcud BSI (BS EN 600) a Nod CE ar y pecyn
- Edrycha am y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ cyn defnyddio condom bob tro ac os ydy'r pecyn yn edrych fel ei fod wedi difrodi, mae'n debyg bod y condom wedi hefyd
- Os wyt ti'n defnyddio ireidiau (lubrication) wedi'i selio ar olew (e.e. hufen dwylo, faselin) gallai ddifrodi condomau latecs felly mae'n bwysig osgoi'r rhain a defnyddio ireidiau wedi'i selio ar ddŵr
- Mae condomau heb latecs hefyd ar gael yn eang
Y bilsen atal cenhedlu
- Gelwir hefyd yn bilsen gyfunol, y bilsen atal cenhedlu cyfunol neu'n syml, y bilsen, dros 99% yn effeithiol os bydd yn cael ei defnyddio yn iawn ac yn cael ei chymryd bob dydd gan y merched i atal dod yn feichiog
- Ni fydd y bilsen yn amddiffyn partneriaid rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw
- Mae’r bilsen yn gweithio trwy ddefnyddio dau hormon – estrogen a phrogestin – i atal ofyliad (pan fydd yr ofari yn rhyddhau wy)
- Gall leddfu poenau’r mislif a lleihau’r gwaedu yn ystod y mislif
- Nid yw’r bilsen yn addas ar gyfer pob merch a gall fod â sgïl-effeithiau prin ond difrifol, fel clotiau gwaed (thrombosis), canser y fron a chanser ceg y groth (cervical)
- Nid yw’n addas ar gyfer ysmygwyr
- Os wyt ti'n fwy na 12 awr yn hwyr yn cymryd y bilsen, cofia ddefnyddio condom bob tro y byddi di’n cael rhyw yn ystod y saith diwrnod nesaf gan ei bod yn bosib nad wyt ti wedi dy amddiffyn
- Mae'n bosib na fydd y bilsen yn gweithio os wyt ti'n chwydu neu’n dioddef o’r dolur rhydd, felly defnyddia gondom os wyt ti'n meddwl nad wyt ti wedi dy amddiffyn
- Mae yna wahanol fathau o’r bilsen atal cenhedlu. Cer i’r clinig cynllunio teulu neu i'r Meddyg Teulu i gael gwybod pa un sy'n iawn i ti
Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC)
Mae'r mathau yma o atal cenhedlu yn parhau am dros fis.
Unwaith byddant mewn lle nid oes rhaid meddwl amdanynt nes bydd angen rhoi un arall yn ei le. Mae LARCs yn cychwyn gweithio yn sydyn iawn, yn gildroadwy , yn addas ar gyfer merched o bob oedran a ddim yn effeithio ar dy ffrwythlondeb. Maent 99% yn effeithiol.
Mae yna bedwar math o LARC:
- Y System Mewngroth (IUS) – Mae dyfais fach siâp T plastig yn cael ei osod yn y groth gan ddoctor neu nyrs ac mae'n rhyddhau'r hormon progestin yn araf. Mae'n gweithio am bum mlynedd
- Y Ddyfais Fewngroth (IUD) – Mae dyfais blastig a chopr yn cael ei osod yn y groth gan ddoctor neu nyrs. Mae'n gweithio am hyd at 10 mlynedd yn ddibynnol ar y math
- Pigiad atal cenhedlu (Depo) – Pigiad sy'n cael ei roi bob 11-12 wythnos yn y feddygfa deuluol neu glinig iechyd rhywiol
- Mewnblaniad – tiwb bach hyblyg sy'n cael ei roi o dan y croen yn rhan uchaf y fraich. Mae'n rhyddhau'r hormon progestin yn araf bach. Mae'n gweithio am dair blynedd
- Mae'r holl fathau yma o atal cenhedlu yn rhad ac am ddim ac ar gael gan y Meddyg Teulu neu glinig iechyd rhywiol lleol
Mae LARCs yn atal beichiogrwydd. Nid ydynt yn amddiffyn rhag heintiau trosglwyddir drwy ryw (STIs). Condom ydy'r unig ffurf o atal cenhedlu sydd yn amddiffyn rhag STIs. Gall pobl ifanc rhwng 13-25 gael condomau am ddim drwy'r Cynllun Cerdyn C.
Am wybodaeth bellach am LARC ymwela â http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/60025 neu www.fpa.org.uk.
Gall hefyd wneud apwyntiad gyda'r Meddyg Teulu neu glinig iechyd rhyw leol i siarad am dy opsiynau.
Mathau eraill o atal cenhedlu
- Y condom i ferched – Mae condomau i ferched fel condomau i ddynion ond eu bod nhw'n cael ei osod yn y fagina yn lle ar y pidyn. Maent yn 95% yn effeithiol mewn atal beichiogrwydd os ydynt yn cael eu defnyddio'n gywir bob tro ti'n cael rhyw
- Y diaffram – Mae diaffram atal cenhedlu yn cael ei osod yn y fagina cyn rhyw, ac mae'n gorchuddio gwddf y groth fel nad all sberm gael at y groth. Bydd angen defnyddio sbermleiddiad (spermicide) gydag ef (mae'n lladd sberm). Mae'n rhaid i'r diaffram gael ei adael am o leiaf chwe awr ar ôl rhyw. Ar ôl hynny ti'n tynnu'r diaffram allan ac yn ei olchi. Gall ddefnyddio nhw drosodd a throsodd. Mae diafframau yn dod mewn meintiau gwahanol – mae'n rhaid i ti gael dy ffitio am y maint cywir gan ddoctor neu nyrs hyfforddedig
- Y Cap (92-96% yn effeithiol) – Mae'r cap yn gromen fach rwber sydd yn ffitio i mewn yn y fagina ac yn mynd dros geg y groth ac mae angen defnyddio sbermleiddiad gydag ef. Mae'n rhaid i'r cap gael ei adael am o leiaf chwe awr ar ôl rhyw. Ar ôl hynny ti'n tynnu'r cap allan ac yn ei olchi. Gall ddefnyddio nhw drosodd a throsodd. Maent yn dod mewn meintiau gwahanol - mae'n rhaid i ti gael dy ffitio am y maint cywir gan ddoctor neu nyrs hyfforddedig
- Pilsen progestin yn unig (99% yn effeithiol) – yn atal ofyliad. Yn addas ar gyfer ysmygwyr
- Clwt Atal Cenhedlu – Mae'r clwt atal cenhedlu yn glwt gludiog (patch), yn debyg i'r clwt nicotin, yn mesur 5x5cm. Mae'n rhoi hormonau yn dy gorff trwy'r croen. Ym Mhrydain enw'r brand ydy Evra. Mae'n cynnwys yr un hormonau ag sydd yn y bilsen gyfunol, ac mae'n gweithio yn yr un ffordd
- Modrwy Fagina – Mae modrwy fagina yn fodrwy fach plastig medal sydd yn cael ei osod yn y fagina. Mae tua 4mm o dewder a 5.5cm o ddiamedr. Mae'n cael ei adael yn y fagina am 21 diwrnod, yna mae'n cael ei dynnu a'i luchio yn y bin (nid i lawr y toiled) mewn bag arbennig. Mae'r fodrwy yn rhyddhau estrogen a phrogestin
- Anffrwythloni benywaidd (dros 99% yn effeithiol) - yn torri’r tiwbiau Ffalopaidd yn barhaol i atal sberm rhag cyrraedd wy. Mae angen llawdriniaeth ar gyfer hyn
- Anffrwythloni gwrywaidd (dros 99% yn effeithiol) - yn torri’r tiwbiau sy’n cario’r sberm fel nad oes yna unrhyw sberm yn y semen. Mae’n barhaol ac mae angen llawdriniaeth ar ei gyfer. Mae yna ffyrdd o wrthdroi'r anffrwythloni yma, ond mae'n anodd ac yn ddrud
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau ynglŷn â dewis dull atal cenhedlu, beichiogrwydd neu heintiau a drosglwyddir trwy ryw, cer i weld y Meddyg Teulu neu’r clinig cynllunio teulu i gael cyngor, neu weler y dolenni isod.
Dulliau atal cenhedlu brys,/h4>
Os wyt ti wedi cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, neu ti'n meddwl efallai bod y dull wedi methu, mae yna ddau gam brys gall eu cymryd:
- Pils brys (neu’r bilsen bore wedyn) - Mae’r rhain ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth y clinig cynllunio teulu lleol neu’r Meddyg Teulu, ac mae’n rhaid eu cymryd hyd at 72 awr (tri diwrnod) ar ôl rhyw i fod yn effeithiol. Gorau po gyntaf y byddi di’n eu cymryd. Gall hefyd eu prynu o’r fferyllydd os wyt ti'n 16 oed neu’n hŷn, am tua £20
- IUD – gweler gwybodaeth uchod. Gall hwn gael ei ffitio hyd at bum diwrnod ar ôl rhyw
Cofia, mae yn erbyn y gyfraith ym Mhrydain i gael rhyw os wyt ti o dan 16 oed, gweler adran Gweithgaredd Rhywiol.