Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Organau Cenhedlu Gwryw



Organau Cenhedlu Gwryw

Y Pidyn

Mae pidyn gwryw efo dwy brif ran – y pen a'r goes. Y blaengroen yw'r llawes o groen o amgylch pen y pidyn.

Mae pob bachgen yn cael ei eni gyda blaengroen ond mae rhai yn cael ei dynnu – gelwir hyn yn enwaediad (circumcision, gweler isod).

Ar gyfartaledd, bydd pidyn oedolyn rhwng pedair a saith modfedd (12-19cm) o hyd ar ei godiad. Mae trwch pidyn ar ei godiad fel arfer oddeutu un fodfedd a hanner (3-4cm) ar draws. Nid oes dim yn anarferol mewn cael pidyn crom, Hefyd nid oes maint 'cywir' ar gyfer pidyn – mae pawb yn wahanol felly paid â chymharu dy hun gyda dy ffrindiau.

Smegma

Mae smegma yn sylwedd hufennog melyn gwyn, ac mae'n ymddangos ar ben y pidyn gan ei fod yn iraid (lubricant) naturiol sydd yn cadw'r pidyn yn wlyb. Os nad wyt ti'n golchi dy bidyn bob dydd, gall y smegma gynyddu. Gallai hyn achosi llid (inflammation) ar ben y pidyn, gelwir yn balanitis. Mae angen gweld y Meddyg Teulu os wyt ti'n meddwl bod gen ti balanitis.

Codiadau a had-dafliad

Pan fydd dyn yn cael ei gyffroi yn rhywiol, bydd gwaed yn rhuthro i’r pidyn gan ei wneud yn galed a rhoi codiad iddo. Dyma pan fydd y pidyn yn mynd yn stiff, yn tyfu’n hirach ac yn lletach ac yn sticio allan o’r corff.

Had-dafliad ydy pan fydd swm bach o semen yn cael ei chwistrellu allan o bidyn ar ei godiad, a gall hyn ddigwydd pan fyddi di’n cael rhyw, yn mastwrbio neu hyd yn oed yn dy gwsg (gelwir yn freuddwyd wlyb). Dylai wisgo condom dros y pidyn yn ystod rhyw bob tro i amddiffyn rhag beichiogrwydd neu heintiau a drosglwyddir trwy ryw. Gweler adran Atal cenhedlu.

Enwaediad

Enwaediad ydy pan fydd y blaengroen yn cael ei dynnu'n llwyr, fel arfer am resymau crefyddol neu feddygol. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth i allu dyn i roi neu dderbyn pleser rhywiol.

Iechyd rhywiol

Os wyt ti’n sylwi ar unrhyw newidiadau yn dy bidyn, fel smotiau, mannau coch neu redlif anarferol, cer i weld y Meddyg Teulu neu’r clinig lleol ar unwaith. Paid â theimlo embaras – maen nhw wedi gweld popeth o’r blaen a byddan nhw’n hapus i helpu.

Ceilliau a'r Ceillgwd

Yn ogystal â’r pidyn, mae organau cenhedlu dyn yn cynnwys dwy gaill, sy’n hongian mewn sach o groen o’r enw ceillgwd.

Mae'r ceilliau yn ddau organ siâp hirgrwn sydd yn rhan o'r system atgenhedlu wrywaidd ac yn cynhyrchu'r sberm a ddefnyddir i atgenhedlu ac maent wedi cysylltu i'r pidyn gan diwb hir (y wrethra), sydd hefyd yn cario wrin. Bydd un gaill fel arfer yn hongian yn is na’r un arall i’w gwneud yn haws symud. Mae’r ceilliau’n hongian yn y ceillgwd, sy’n hongian y tu allan i’r corff er mwyn cadw’r sberm yn oer gan fod sberm yn gallu cael ei ladd gan wres.

Canser y ceilliau

Mae canser y ceilliau’n effeithio ar ddynion ifanc rhwng 15 a 35 oed yn bennaf, ond mae modd cael gwared yn llwyr ar bron i 100 y cant o bob canser y ceilliau os bydd yn cael ei ddal yn ddigon cynnar. Ymhlith arwyddion rhybudd canser y ceilliau mae poen mud yn y ceilliau, lwmp bach caled a di-boen, un gaill yn fwy neu’n drymach na’r llall a gwaed yn dod o’r pidyn.

Dylai dynion archwilio’u ceilliau bob mis i weld a yw siâp, maint neu bwysau'r naill gaill neu’r llall wedi newid, ac i weld a oes unrhyw lympiau. Mae’n haws gwneud hyn yn effeithiol wrth sefyll. Paid â theimlo embaras – cer i weld dy feddyg ar unwaith os wyt ti'n sylwi ar unrhyw beth anarferol.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50