Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Beichiogrwydd



Beichiogrwydd

Mae dod yn feichiog yn digwydd pan fydd sberm dyn yn ffrwythloni wy dynes.

Os wyt ti wedi cael rhyw heb unrhyw ddull atal cenhedlu, gallet ti fod mewn perygl o feichiogrwydd. Dydy'r 'dull tynnu'n ôl', ble fydd dyn yn tynnu ei bidyn allan cyn iddo alldaflu, ddim yn ffordd ddibynadwy o atal cenhedlu gan y gallai cyn-alldafliad fod ar ei bidyn

Sut mae beichiogrwydd yn digwydd

  • Yn ystod rhyw, mae sberm sy’n cael ei ryddhau o’r pidyn yn nofio i mewn i’r fagina, trwy geg y groth (cervix), i mewn i’r groth (womb) ac yna i mewn i’r tiwbiau Ffalopaidd ac yn chwilio am wy i’w ffrwythloni
  • Os oes yna wy yn y tiwb, fe fydd cannoedd o sberm yn ceisio’i gyrraedd
  • Mae’n bosib y bydd un sberm yn glynu at wal yr wy ac yn dechrau ar siwrnai araf i mewn i ganol yr wy. Gall hyn gymryd rhyw dair awr
  • Unwaith y bydd y sberm i mewn, bydd y wal yn caledu i atal sberm arall rhag mynd i mewn hefyd
  • Yna bydd yr wy, wedi’i ffrwythloni, yn symud i lawr y tiwb Ffalopaidd i mewn i’r groth
  • Ar ôl rhyw 10 diwrnod bydd yr wy, wedi’i ffrwythloni, yn dechrau glynu at leinin trwchus y groth, a dyna ddechrau i’r beichiogrwydd
  • Yna bydd yr embryo yn datblygu yn faban yn y groth

Arwyddion beichiogrwydd

Ymhlith yr arwyddion o feichiogrwydd mae:

  • Teimlo’n flinedig
  • Bronnau wedi chwyddo neu’n dyner
  • Methu mislif
  • Mislif byrrach, ysgafnach nag arfer
  • Newidiadau yn dy chwant bwyd a diflasu ar rai bwydydd
  • Cyfog a chwydu (‘salwch bore’ yw’r enw ar hyn, ond gall ddigwydd unrhyw adeg yn ystod y dydd)
  • Teimlo wedi chwyddo
  • Cramp fel cramp mislif
  • Pi-pi yn aml
  • Hwyliau’n newid

Os wyt ti'n meddwl dy fod di'n feichiog, paid â chynhyrfu. Mae profion beichiogrwydd yn y cartref ar gael oddi wrth fferyllwyr ac yn costio hyd at £13. Maen nhw’n gywir iawn. Gall hefyd gael profion beichiogrwydd yn rhad ac am ddim mewn sawl clinig cynllunio teulu, Meddygon Teulu neu glinigau pobl ifanc.

Os yw’r canlyniadau’n bositif, ceisia siarad gyda dy bartner, teulu neu warcheidwad a'r Meddyg Teulu ynglŷn â’r camau nesaf.

Beth bynnag ti'n penderfynu ei wneud, fe fydd angen cefnogaeth arnat ti, felly siarada â’r bobl sy’n agos atat ti.

Cyfnodau beichiogrwydd (neu drimisoedd)

Mae beichiogrwydd arferol fel arfer yn para 37-42 wythnos (naw mis) ac yn cael ei fesur o ddiwrnod cyntaf y mislif diwethaf.

Y trimis cyntaf

  • Ar ôl chwe wythnos, bydd yr holl brif organau yn ffurfio a bydd y galon yn dechrau curo. Bydd yr embryo ychydig dros 1cm o hyd
  • Ar ôl 12 wythnos, bydd yr embryo wedi dod yn ffetws a bydd ganddo freichiau, coesau, bysedd, bysedd traed ac wyneb. Fe fydd tua 76mm o hyd

Yr ail drimis

  • Erbyn 20 wythnos, bydd yr esgyrn yn galed a gall y fam deimlo cicio neu'r igian (hiccups) hyd yn oed
  • Gall y ffetws hefyd glywed synau fel lleisiau
  • Erbyn 24 wythnos, bydd y llygaid ar agor. Pe byddai’r baban yn cael ei eni bryd yma, fe allai fyw, ond mae’n bosib y byddai angen help arno oddi wrth feddygon, ac fe allai ddioddef problemau iechyd mawr

Y trydydd trimis

  • Bydd y ffetws yn parhau i dyfu ac ennill pwysau. Bydd yr ysgyfaint yn datblygu o hyd
  • Ar ôl 36 wythnos, fe fydd y baban fel arfer yn ymsefydlu mewn ystum â’i ben i lawr, yn barod i’w eni

Pryd fydd merch yn ffrwythlon?

  • I feichiogi, mae angen i ferch gael rhyw o gwmpas yr amser mae’n ofylu (pan fydd ei chorff yn rhyddhau wy i’r tiwb Ffalopaidd). Bydd hyn yn para 8-9 diwrnod fel arfer
  • Bydd merch fel arfer yn ofylu 12-16 diwrnod cyn dechrau ei mislif nesaf

Atal cenhedlu

I osgoi dod yn feichiog, mae’n rhaid defnyddio dull atal cenhedlu i atal sberm rhag cyfarfod ag wy. Gall hyn fod yn ddull rhwystrol, fel condom sy’n atal y sberm rhag mynd i mewn i gorff y ferch, neu’n ddull sy’n atal yr wy rhag cael ei gynhyrchu, fel y bilsen atal cenhedlu. Gweler adran Atal cenhedlu.

Erthyliad

  • Erthyliad yw’r enw ar y broses pan fydd beichiogrwydd yn cael ei derfynu trwy gael gwared â’r wy wedi’i ffrwythloni neu embryo o’r groth, naill ai trwy gymryd pils neu drwy lawdriniaeth
  • Mae erthyliadau yn gyfreithlon hyd at 24 wythnos yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ond nid yng Ngogledd Iwerddon
  • Rhaid perfformio erthyliadau mewn ysbyty GIG neu glinig cymeradwy
  • Mae’n driniaeth feddygol ddiogel ac ni fydd yn effeithio ar dy allu i gael plant yn y dyfodol. Fodd bynnag, bydd llawer o ferched yn teimlo euogrwydd, straen, iselder a theimlad o golled wedyn
  • Mae erthyliadau’n bwnc emosiynol, ac mae llawer o bobl o’u plaid neu yn eu herbyn. Mae’n bwysig dy fod di’n gwneud penderfyniad dy hun ar ôl i ti gael y ffeithiau i gyd. Dy gorff di ydyw, felly penderfyna di
  • Cyn penderfynu, siarada â’r Meddyg Teulu i gael yr holl wybodaeth ti angen

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50