Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Bronnau



Bronnau

Datblygiad y bronnau a’r tethi

  • Bydd y bronnau’n dechrau datblygu yn ystod y glasoed ac ni fyddan nhw’n gorffen tyfu tan fyddi di’n 21 oed o leiaf
  • Bydd bronnau pawb yn tyfu ar wahanol gyflymdra ac maent yn dod mewn bob math o siapiau a maint ond, fel arfer bydd y tethi a'r areola – rhan o'r croen sydd yn amgylchu'r tethi – yn dechrau chwyddo ac yna wedyn bydd y bronnau yn dechrau datblygu i siâp mwy aeddfed, gyda'r tethi a'r areola yn chwyddo mwy. Efallai byddi di'n sylweddoli ar ychydig o dynerwch a phoen wrth i'r bronnau dyfu
  • Nid yw’n anarferol cael un fron sy’n fwy na’r llall. Byddan nhw’n dod yn debycach wrth i ti fynd yn hŷn, ond nid oes unrhyw ddwy fron sydd yn union yr un fath, felly paid â phoeni os nad ydy dy rhai di'n edrych yr un fath – mae hynny’n normal
  • Gall maint dy fronnau gael ei ddylanwadu gan hanes teuluol, dy oed a phwysau
  • Wrth brynu bra, i gael gwybod pa faint sy’n iawn i ti, ceisia fynd i siop sy’n cynnig gwasanaeth mesur rhad ac am ddim. Gallet ti ystyried mynd â rhiant neu warcheidwad neu ffrind gyda thi os wyt ti am gael help i ddewis neu'n teimlo’n nerfus ynglŷn â mynd
  • Pan fydd merched yn feichiog neu ar ôl cael plentyn, bydd y bronnau’n dechrau cynhyrchu llaeth ar gyfer bwydo ar y fron
  • Mae tethi o bob lliw a llun i’w cael hefyd. Bach, mawr, tywyll neu olau, yn mynd ar i mewn neu ar i allan - maen nhw i gyd yn hollol normal

Newidiadau yn y bronnau a hunan archwiliad

  • Mae bron i 70% o ferched yn cael poen yn eu bronnau ryw adeg yn eu bywydau, ac fel arfer cylchred y mislif sy’n gyfrifol pan fydd y bronnau’n tueddu i chwyddo. Os wyt ti'n cael poen difrifol yn dy fronnau, neu boen sy’n para am hir, cysyllta gyda'r Meddyg Teulu
  • Mae’n beth cyffredin i ferched ddatblygu marciau coch (stretch marks) ar eu bronnau wrth iddyn nhw dyfu. Fe ddaw'r rhain yn llai amlwg dros amser, gan droi yn wyn
  • Mae’n bwysig iawn archwilio dy fronnau, a dylai gwneud hyn o leiaf unwaith y mis, a gorau oll os yw hynny yn ystod yr wythnos ar ôl i'r mislif ddod i ben, pan fydd y bronnau’n llai tyner
  • Gall y Meddyg Teulu gynghori ar y ffordd orau o archwilio dy hun, neu gallet ti fynd i’r gwefannau isod i gael cyngor pellach
  • Bydd archwilio’r bronnau yn helpu i ddatgelu unrhyw abnormaledd yn y fron yn gynnar, fel lympiau neu newidiadau eraill
  • Argymhellir yn gryf bod merched 20 oed a hŷn yn archwilio’u bronnau
  • Prin iawn y bydd lympiau yn y fron yn ystod y glasoed yn rhywbeth i boeni amdano, ond dylai fynd i weld y Meddyg Teulu beth bynnag
  • Wrth archwilio’r fron mae’n bwysig edrych am newidiadau, fel
    • Newid yn ei siâp (tynnu ar y croen neu chwydd amlwg)
    • Newidiadau yn y deth (yn tynnu ar i mewn)
    • Chwydd yn y gesail
    • Lympiau neu dewychu
  • Os wyt ti'n pryderu ynglŷn ag unrhyw newidiadau yn dy fronnau, mae’n bwysig iawn cysylltu â'r Meddyg Teulu cyn gynted â phosib. Mae’r rhan fwyaf o lympiau yn y bronnau yn ddiniwed, ond mae datgeliad cynnar yn hanfodol yn achos canser y fron, felly trefna apwyntiad cyn gynted â phosib.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50