Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw (STIs)
Yn yr Adran Hon
Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw (STIs)
Os oes gan rywun haint mae’n bosib ei throsglwyddo i rywun arall drwy ryw faginol, rhyw rhefrol (anal) neu ryw geneuol (oral). Haint a drosglwyddir drwy ryw (STI), neu afiechyd a drosglwyddir drwy ryw (STD) yw’r enw ar y math yma o haint.
Gall unrhyw un sy’n cael rhyw ddal STI, boed yn ddyn neu’n ddynes, yn heterorywiol neu’n gyfunrywiol. Ni fydd pawb sydd ag STI yn dangos symptomau ac weithiau gallan nhw fynd a dod.
Os wyt ti'n amau bod gen ti STI, cer i weld dy Feddyg Teulu ar unwaith. Paid â theimlo embaras; mae’n bwysig iawn i dy iechyd dy fod di’n cael triniaeth yn syth.
Mathau o STI
Clamydia
Clamydia yw un o’r STIs mwyaf cyffredin, ond os na fydd yn cael ei drin fe all achosi i ti ddod yn anffrwythlon. Bacteria mewn semen a hylif o’r fagina sy’n ei achosi, ac felly mae'n hawdd ei drosglwyddo o berson i berson yn ystod gweithgareddau rhywiol.
Mae defnyddio condom yn gallu lleihau'r tebygrwydd o'i ddal. Ni fydd o leiaf hanner yr holl ddynion a merched sydd â’r haint yma’n dangos unrhyw symptomau o gwbl. Ond ymhlith y symptomau mae:
- I Ferched:
- Rhedlif anarferol o’r fagina
- Poen wrth bi-pi
- Gwaedu rhwng mislifoedd
- Gwaedu ar ôl rhyw neu yn ystod rhyw
- Poen yng ngwaelod y bol
- I Ddynion
- Rhedlif gwyn/cymylog a dyfrllyd o’r pidyn
- Poen wrth wneud bi-pi
- Y ceilliau’n chwyddo’n boenus
Gall clamydia heintio’r llygaid a’r gwddf hefyd.
Mae’r driniaeth ar gyfer Clamydia yn syml ac yn effeithiol – dim ond cwrs o dabledi antibiotig. Hyd yn oed os nad wyt ti'n dangos unrhyw symptomau, efallai byddi di eisiau cael prawf, yn enwedig os wyt ti wedi cael rhyw heb gondom neu os yw dy bartner wedi dal STI. Cer i weld y Meddyg Teulu neu’r clinig iechyd rhywiol i gael prawf.
Syffilis
Mae syffilis yn gymharol brin ond gall achosi problemau iechyd hynod ddifrifol os na fydd yn cael ei drin.
Bacteria sy’n gallu trosglwyddo rhwng dau o bobl trwy gyswllt rhywiol sy’n ei achosi. Gall ddefnyddio condom atal yr haint rhag lledaenu trwy ryw faginol, rhyw rhefrol a rhyw geneuol.
Mae symptomau syffilis yr un fath i ddynion a merched, ond mae’n hawdd peidio â sylwi arnyn nhw. Yn eu plith mae:
- Cyfnod 1: bydd un briw neu fwy yn ymddangos ar y corff, fel arfer o amgylch yr organau cenhedlu, yr anws neu’r geg. Mae’r rhain yn heintus iawn
- Cyfnod 2: brech ddi-boen, tyfiannau fflat fel dafadennau ar yr organau cenhedlu a’r anws, salwch tebyg i’r ffliw, blinder, colli awydd bwyd a chwarennau (glands) wedi chwyddo, darnau gwyn yn y geg a cholli gwallt mewn mannau ar y pen
Os bydd yn mynd heb ei drin am flynyddoedd, gall niweidio’r galon, yr ymennydd, y llygaid, yr esgyrn a’r system nerfol. Fe allai fod yn farwol erbyn y cyfnod yma.
Cer i weld y Meddyg Teulu neu'r clinig iechyd rhywiol i gael prawf – un pigiad antibiotig yw’r driniaeth, neu gwrs o dabledi, fel Penisilin.
Gonorea
Mae gonorea yn dod yn fwy cyffredin a gall achosi ti i ddod yn anffrwythlon os nad yw'n cael ei drin.
Bacteria sy’n gallu trosglwyddo rhwng dau o bobl yn ystod cyswllt rhywiol sy’n ei achosi. Os wyt ti'n defnyddio condom yn ystod rhyw faginol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol fe fyddi di’n llai tebygol o ddal yr haint neu ei ledaenu. Mae hi hefyd yn bosib trosglwyddo’r haint o'r organau cenhedlu i’r llygaid ar y bysedd.
Ni fydd 10% o ddynion a 50% o ferched sydd â’r haint yma’n dangos unrhyw symptomau.
Ymhlith y symptomau yn achos merched mae:
- Rhedlif anarferol o’r fagina – trwchus, dyfrllyd neu felyn/gwyrdd ei liw
- Poen wrth bi-pi
- Poen yng ngwaelod y bol
Ymhlith y symptomau yn achos dynion mae:
- Rhedlif gwyn, melyn neu wyrdd o flaen y pidyn
- Poen wrth bi-pi
- Poen yn y ceilliau
Ni fyddi di'n gwybod os wyt ti wedi dal yr haint heb brawf, gall wneud hyn yn y feddygfa leol neu glinig iechyd rhywiol. Mae’r driniaeth yn effeithiol iawn, a dyw’n ddim mwy nag un dos o antibiotigau.
Dafadennau cenhedlol (Genital warts)
Dafadennau cenhedlol yw’r STI mwyaf cyffredin. Maen nhw’n cael eu hachosi gan firws o’r enw firws papiloma dynol (HPV) ac maen nhw’n cael eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall trwy gyswllt rhywiol.
Mae yna dros 100 math o HPV a bydd y gwahanol fathau’n effeithio ar wahanol rannau o’r corff, fel y dwylo, y traed neu’r organau cenhedlu. Gallan nhw fod yn weladwy neu’n anweladwy. Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl â’r haint yma unrhyw symptomau na dafadennau i'w gweld. Bydd dafadennau gweladwy yn amrywio o dyfiannau neu lympiau bach, cigog i lympiau pinc mawr sy’n edrych fel blodfresych. Fel arfer maen nhw’n fach iawn ac yn ddi-boen.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd edrych ar y corff yn ddigon i feddyg neu nyrs weld a yw’r firws gen ti. Mae modd cael gwared â dafadennau cenhedlol trwy baentio cemegyn hylifol arnyn nhw, defnyddio eli arnyn nhw adref, eu rhewi (rhew driniaeth), eu gwresogi (electroserio), llawdriniaeth neu driniaeth laser.
Llau pwbig
Mae llau pwbig (weithiau gelwir yn 'crabs') yn bryfed mân parasitig sy’n byw mewn blew cedor. Maen nhw’n felyn-llwyd, tua 2mm o hyd ac maen nhw’n edrych fel crancod.
'Llau' ydy'r wyau sy’n ymddangos fel dotiau brownaidd ynghlwm wrth y blew. Mae’n hawdd trosglwyddo llau pwbig rhwng y naill unigolyn a’r llall trwy gyswllt corfforol agos neu weithgarwch rhywiol. Mae’n bosib na fydd rhai pobl yn sylwi ar y llau neu'r wyau yn eu blew.
Ymhlith y symptomau eraill mae:
- Cosi neu lid (irritation) yn y rhan o’r corff maen nhw ynddi
- Tail du powdrog y llau mewn dillad isaf
- Wyau brown ar y blew
- Sbeciau mân o waed ar y croen
Bydd edrych am lau yn ddigon i feddyg neu nyrs weld a oes rhai, ac mae modd eu trin ag eli neu siampŵ.
Clefyd crafu (scabies)
Gwiddon (mites) bychain parasitig sy’n tyrchu dan y croen ac yn dodwy wyau sy’n achosi clefyd crafu. Mae’n hawdd ei drosglwyddo rhwng y naill unigolyn a’r llall trwy gyswllt corfforol agos neu weithgaredd rhywiol.
Gall y symptomau gynnwys:
- Cosi dwys
- Brech neu smotiau mân sy’n goslyd
- Llid neu groen amrwd
Mae’n amhosib gweld y widdon â’r llygad noeth. Yn aml, bydd meddyg neu nyrs yn gallu dweud os oes gen ti glefyd crafu trwy edrych ar y croen, ac mae’n hawdd ei drin â hufen neu eli.
Herpes Cenhedlol
Maw'n cael ei achosi gan firws heintus iawn sy’n cael ei ledaenu drwy gyswllt rhywiol. Gellir ei drosglwyddo’n hawdd o'r naill unigolyn i'r llall yn ystod rhyw gyda rhywun sydd yn torri allan gyda herpes cenhedlol ar y pryd, neu drwy gyswllt croen-i-groen gyda dolur.
Gall y symptomau gynnwys:
- Swigod neu ddoluriau allanol neu fewnol o amgylch yr organau cenhedlu neu’r anws, a fydd yn byrstio’n gyflym gan adael doluriau bach coch
- Pigo, goglais neu gosi o gwmpas yr organau cenhedlu neu’r anws
- Symptomau tebyg i’r ffliw, fel gwres, blinder, chwarennau wedi chwyddo, poenau
- Poen wrth bi-pi
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd meddyg neu nyrs yn gallu dweud os oes gen ti herpes drwy edrych, ond efallai y byddan nhw’n defnyddio swab i gasglu sampl o hylif hefyd. Mae triniaeth yn golygu cymryd tabledi gwrthfirol.
HIV ac AIDS
Mae HIV yn sefyll am 'Human Immunodeficiency Virus' a haint feirol ydyw sy’n ymosod ar system imiwnedd y corff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd angen help cyffuriau gwrth-HIV ar y system imiwnedd i gadw’r firws dan reolaeth, ond ni allan nhw gael gwared â’r firws yn llwyr.
Mae AIDS yn sefyll am 'Acquired Immune Deficiency Syndrome' ond mae HIV datblygedig yn enw arall arno. Mae’n disgrifio’r adeg pan na fydd system imiwnedd rhywun yn gallu ymdopi mwyach oherwydd y difrod mae HIV wedi’i achosi. Ni fydd pobl yn marw o AIDS, maent yn marw o’r canserau, niwmonia a chyflyrau eraill mae’r corff yn methu ag ymladd yn eu herbyn oherwydd ei system imiwnedd wan.
Mae modd trosglwyddo HIV o lif gwaed un unigolyn i lif gwaed un arall mewn sawl ffordd:
- Semen a hylif semenol sy’n cael ei ryddhau cyn had-dafliad
- Hylifau o’r fagina, gan gynnwys hylifau mislifol (y mislif)
- Llaeth o’r fron
- Gwaed
Mae yna ffyrdd o leddfu’r risg:
- Defnyddia gondom bob amser yn ystod gweithgaredd rhywiol a chyfathrach rywiol. Bach yw’r risg yn ystod rhyw geneuol, ond mae risg yn dal i fod yno
- Dylai pobl sy’n chwistrellu cyffuriau i’w gwythiennau ddefnyddio nodwyddau ffres bob amser a pheidio byth â rhannu offer cyffuriau gydag unrhyw un arall
Nid yw'n bosib dal HIV trwy gyffwrdd â rhywun heintus neu drwy rannu cwpanau, gwydrau a chyllyll a ffyrc, tyweli neu seddau toiled.
Mae prawf HIV yn dangos a oes haint HIV ar rywun. Nid prawf AIDS ydyw. Mae’n gweithio trwy edrych am y gwrthgyrff y mae corff rhywun heintus yn eu creu a dyw’n ddim mwy na phrawf gwaed syml. Mae’n bosib na fydd cael prawf llai na thri mis ar ôl dyddiad posib dal yr haint yn rhoi canlyniad manwl-gywir gan na fydd digon o wrthgyrff wedi’u cynhyrchu o bosib.
Nid oes gwellhad i HIV ar hyn o bryd.
Ni fydd y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir trwy ryw yn dangos unrhyw symptomau o gwbl ond gallan nhw niweidio dy iechyd yn ddifrifol. Os wyt ti’n dioddef o unrhyw symptomau neu os wyt ti wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom, mae’n bwysig dy fod di’n mynd i weld dy Feddyg Teulu, y clinig cynllunio teulu neu’r clinig iechyd rhywiol cyn gynted â phosib i gael prawf a dechrau unrhyw driniaeth angenrheidiol.
Mae’r meddygon a’r nyrsys wedi gwneud y profion sawl gwaith o’r blaen, felly paid â theimlo embaras. Ni fyddan nhw’n dweud wrth dy rieni neu warcheidwad ac mae’r profion yn gyfrinachol.
Os wyt ti'n dioddef o STI, cysyllta â’r partneriaid rwyt ti wedi’u cael yn y gorffennol i roi gwybod iddyn nhw, fel y gallan nhw gael prawf hefyd.
Efallai dy fod di'n teimlo embaras, ond fe allai cael prawf achub dy fywyd.