Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Glasoed



Glasoed

Y glasoed yw'r enw ar y cyfnod pan fydd dy gorff yn newid o fod yn blentyn i fod yn oedolyn ifanc.

Gall fod yn adeg ddryslyd, ond mae'n digwydd i bawb.

Mae'r newid yn digwydd pan fydd y corff yn dechrau cynhyrchu cemegau gelwir yn hormonau rhyw.

Bydd pawb yn newid ar eu cyflymer eu hunain, ond fel arfer bydd y glasoed yn dechrau'n gynharach yn achos merched nag yn achos bechgyn

Gall y glasoed ddechrau ar unrhyw oed o wyth i 16 oed, ond yn gyffredinol fe fydd yn digwydd rhwng naw a 13 oed er nad oes unrhyw 'oed iawn'.

Newidiadau corfforol yn achos genethod

Bronnau

  • Arwydd cyntaf o'r glasoed yn achos genethod ydy pan fydd dy fronnau'n dechrau tyfu a byddi di'n sylweddoli bod angen bra arnat ti
  • Mae'n gwbl normal yn ystod y glasoed i fod ag un bron sy'n fwy na'r llall a bydd eu maint yn dod yn fwy tebyg i'w gilydd wrth i ti fynd yn hŷn
  • Bydd dy fronnau'n cymryd blynyddoedd i gyrraedd eu maint a'u siâp terfynol

Blew

  • Bydd blew yn dechrau tyfu rhwng dy goesau, dan dy geseiliau ac ar dy goesau

Siâp y corff

  • Bydd siâp dy gorff hefyd yn dechrau newid. Bydd dy gluniau'n mynd yn lletach a byddi di'n tyfu'n dalach ac yn drymach. Mae hyn yn rhan arferol o'r glasoed

Sbotiau

  • Mae sbotiau yn gyffredin yn ystod y glasoed ac fel arfer fe fyddan nhw i'w gweld yn llai aml wrth i ti fynd yn hŷn. Gweler adran Croen a Sbotiau (words 'croen a sbotiau' needs hyperlink to section 4.d.11) am wybodaeth bellach

Y mislif

  • Yn ystod y glasoed, fe fydd dy ofarïau hefyd yn dechrau cynhyrchu wyau (ofyliad ydy'r enw ar hyn) a bydd genethod yn dechrau cylchred eu mislif. Gweler adran Mislif a Syndrom Cyn Mislif (PMS) am wybodaeth bellach

Newidiadau corfforol yn achos bechgyn

Blew

  • Un o arwyddion cyntaf y glasoed yn achos bechgyn yw blew yn tyfu. Mae hyn yn cynnwys y wyneb, dan y ceseiliau ac o amgylch bôn y pidyn

Llais

  • Bydd bechgyn hefyd yn sylwi ar eu llais yn 'torri' a dod yn llawer dyfnach

Corff

  • Mae'n gwbl arferol i'r corff ddechrau chwysu mwy yn ystod y glasoed, ac efallai y bydd bechgyn yn sylwi bod angen iddyn nhw ymolchi'n amlach. Efallai y byddi di hefyd yn gweld dy hun yn cael mwy o sbotiau. Gweler adran Croen a Sbotiau ac Arogleuon y Corff am wybodaeth bellach

Y pidyn a'r ceilliau

  • Bydd y pidyn yn tyfu’n dewach ac yn hirach yn ystod y glasoed. Mae pawb yn wahanol ac nid oes y fath beth â'r 'maint iawn' gan eu bod nhw'n amrywio cymaint
  • Bydd y ceilliau yn dechrau cynhyrchu miliynau o sbermau bob dydd, fydd yn nofio mewn hylif hufennog o'r enw semen
  • Gweler yr adran Organau Cenhedlu Gwrywaidd

Codiadau ac alldafliad

  • Mae codiadau yn cychwyn yn ystod y glasoed ac yn aml yn digwydd yn y bore neu pan fyddi di'n cael dy gyffroi yn rhywiol
  • Mae'n achosi i'r pidyn fynd yn galed a sticio allan o'r corff
  • Alldafliad ydy pan fydd swm bach o semen yn cael ei chwistrellu allan o bidyn ar ei godiad, a gall hyn ddigwydd yn ystod rhyw, mastyrbiad neu hyd yn oed yn dy gwsg
  • Mae alldafliad yn dy gwsg yn digwydd heb i ti wybod unrhyw beth amdano ac mae'n gwbl naturiol yn ystod y glasoed. Gelwir yn 'breuddwydion gwlyb'

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50