Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Iechyd » Rhywioldeb ac Iechyd Rhyw » Y Llindag (Thrush)



Y Llindag (Thrush)

Mae’r llindag yn haint gyffredin sy’n cael ei hachosi gan furum o’r enw Candida Albicans sy’n byw ar y croen, yn y geg, y perfedd a’r fagina. Mae’r burum yn ddiniwed ond weithiau bydd newidiadau yn y corff yn achosi i'r burum dyfu’n gyflym can achosi’r llindag.

Gall y llindag effeithio ar ddynion a merched ger yr organau cenhedlu neu yn y geg.

Ymhlith y symptomau yn achos merched mae:

  • Poen, cochni a chosi o amgylch y fagina neu’r anws
  • Rhedlif trwchus, gwyn o’r fagina (mae’n edrych fel caws colfran, ac yn arogli fel burum)
  • Poen wrth gael rhyw neu bi-pi

Ymhlith y symptomau yn achos dynion mae:

  • Llosgi, cosi a chochni dan y blaengroen neu ar flaen y pidyn
  • Rhedlif trwchus, ag oglau caws arno dan y blaengroen
  • Problemau’n tynnu’r blaengroen yn ôl

Gall y canlynol ei achosi:

  • Gwisgo trowsus tynn neu ddillad isaf neilon
  • Cynhyrchion a allai achosi llid, fel diaroglyddion i’r fagina
  • Beichiogrwydd
  • Cymryd rhai antibiotigau penodol
  • Diabetes
  • Salwch
  • Gall y llindag ymddangos yn y geg hefyd, gan achosi poen, cochni ac weithiau rhedlif gwyn.

    Bydd o leiaf tair ymhob pedair merch yn dioddef o’r llindag ar ryw adeg yn eu bywydau. Nid yw’r llindag yn ddifrifol ac mae modd prynu triniaeth ar ei gyfer dros y cownter mewn siopau fferyllwyr. Os bydd y broblem yn parhau, cer i weld y meddyg.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50