Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Twyll
Yn yr Adran Hon
Twyll
Mae yna gysylltiad rhwng twyll a ffugiad, ac mae’n cynnwys ffugio rhywbeth fel llofnod, pasport neu gerdyn credyd a’i ddefnyddio fel pe bai yn gwbl ddilys. Gall hyn gynnwys darparu gwybodaeth ffug neu ddefnyddio ID ffug.
- Bydd y gair bathu yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer copïo/ffugio arian papur
- Mae Môr-ladrad hefyd yn dwyll, felly mae lawrlwytho ffilmiau, cerddoriaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a gemau cyfrifiadurol yn torri’r gyfraith, a gall y gosb fod yn ddifrifol os cei di dy ddal
- Ni cheir copïo unrhyw eitem sydd â hawlfraint arni oni bai bod y cyhoeddwr yn rhoi ei ganiatâd, ac weithiau bydd yn rhaid talu ffi am hyn
Os byddi di’n dioddef twyll neu ffugiad, gall fod yn drallodus, ac mae yna ffyrdd o’ch amddiffyn dy hun:
- Cadwa dogfennau pwysig gyda thi bob amser, neu gwna'n siŵr dy fod di’n gwybod eu bod nhw mewn lle diogel
- Paid â rhannu dy wybodaeth bersonol ag unrhyw un arall oni bai dy fod di’n gwybod yn union pwy ydyn nhw
- Paid byth â dweud dy rifau PIN wrth unrhyw un, hyd yn oed os byddan nhw’n dweud eu bod nhw’n dod o dy fanc neu’n dweud mai’r heddlu ydyn nhw
- Cymhara gyfriflenni dy gerdyn neu gyfriflenni banc â derbynebau i wneud yn siŵr nad oes unrhyw drafodion arnyn nhw nad oeddet ti'n gyfrifol amdanyn nhw
- Defnyddia wefannau diogel, adnabyddus yn unig pan fyddi di’n siopa ar-lein
- Paid â phrynu o wefannau nad ydyn nhw’n nodi rhif ffôn a chyfeiriad post llawn, a gwiria'r rhain cyn prynu os nad wyt ti’n hollol siŵr. Gweler Siopa Ar-lein
- Gosoda meddalwedd wrthfeirysol ar y cyfrifiadur o ffynhonnell ddibynadwy - mae nifer o achosion dwyn hunaniaeth y dyddiau hyn yn cael ei wneud gan maleiswedd yn cael eu gosod mewn diweddariadau meddalwedd ffug ar y cyfrifiadur heb i ti wybod
- Carpia pob dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol ac ariannol; paid â’u taflu i’r bin heb eu carpio
- Os oes gan dy ffôn symudol rif PIN neu god diogelwch, gwna'n siŵr dy fod di’n ei ddefnyddio
- Rho nod diogelwch ar dy ffôn symudol