Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd



Trosedd

Trosedd yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio unrhyw weithgaredd sy'n torri'r gyfraith.

Yn yr adran hon cei di wybodaeth am droseddau a'r effaith y gallai cael ar dy fywyd a bywydau pobl eraill.

Am ffeithiau ac ystadegau diweddar, yn ogystal â chyngor mwy manwl, cer i TheSite.org.

Troseddau Ieuenctid

Er mwyn cwtogi ar drosedd ieuenctid ac atal pobl ifanc a phlant rhag troseddu, ym 1998 fe sefydlodd y llywodraeth y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn a’r System Cyfiawnder Ieuenctid.

  • Mae Timau Troseddu Ieuenctid (TTIau) wedi’u sefydlu ym mhob awdurdod lleol
  • Mae’r rhain yn golygu'r heddlu yn cydweithio ag adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, prawf, addysg ac iechyd wrth gyflenwi gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, atal troseddu a sicrhau bod yna ddewisiadau amgen effeithiol i droseddu ar gyfer pobl ifanc
  • Mae’r timau yma'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 ac 18 oed
  • Yn ogystal â’r heddlu a’r system gyfiawnder yn delio â phobl ifanc 14 oed a hŷn fel oedolion o ran cyfraith droseddol, gan gynnwys byrgleriaeth, troseddau traffig a throseddau treisgar, gallan nhw hefyd roi gorchymyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol (GYG neu ASBO) i bobl ifanc 10 oed a hŷn
  • Mae’r rhain yn delio ag ymddygiad difrifol ond nid troseddol o reidrwydd
  • Byddan nhw’n cael eu rhoi i bobl ifanc sy’n aflonyddu ar unrhyw un arall, neu'n achosi braw neu drallod iddyn nhw

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50