Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Atal Troseddu
Yn yr Adran Hon
Atal Troseddu
Mae yna ffyrdd y gallet ti helpu i amddiffyn dy hun rhag y bygythiad o drosedd. Os wyt ti’n barod ac yn hyderus fe allai hyn dy helpu i ddelio â digwyddiadau pe byddet ti’n ddigon anffodus i ddioddef trosedd.
Amddiffyn Dy Hun
Bydda'n ymwybodol o dy ddiogelwch personol. Ystyria'r canlynol pan fyddi di’n cerdded ar ben dy hun:
- Cario larwm personol – gofynna i'r ysgol, coleg neu’r heddlu cymunedol a oes ganddyn nhw gynllun i gyflenwi larymau personol
- Cynllunia dy lwybr ac aros mewn ardaloedd sydd wedi’u goleuo'n dda a chymdogaethau cyfarwydd os yw'n bosibl
- Osgoi mynd i ffwrdd o’r prif lwybr i gwtogi ar dy daith ac osgoi tanffyrdd
- Dyweda wrth rywun ble rwyt yn mynd a phryd rwyt yn disgwyl cyrraedd
- Cerdda'n hyderus a chadw'n effro. Mae llawer o droseddau a digwyddiadau manteisgar yn digwydd oherwydd nad oedd y dioddefwr yn talu sylw at beryglon o'u cwmpas
- Cadwa dy bethau gwerthfawr allan o'r golwg, paid â chario dy waled, pwrs neu ffon yn dy law
- Meddylia am y dillad rwyt ti’n eu gwisgo; er enghraifft, a allet ti redeg i ffwrdd yn gyflym yn yr esgidiau rwyt ti’n eu gwisgo?
- Os wyt ti'n amau bod rhywun yn dy ddilyn, weithiau gallai troi o gwmpas i edrych arnynt a gwneud cyswllt llygad fod yn ddigon i'w rhwystro. Os byddai digwyddiad yn digwydd byddet yn gallu eu hadnabod
- Os wyt ti'n dal tacsi ar ben dy hun, gwna'n yn siŵr dy fod yn talu sylw i p'un a oes bathodyn trwydded yn cael ei harddangos yn y car cyn i ti fynd i mewn. Bydd hyn yn cynnwys enw'r gyrrwr, llun a rhif trwydded tacsi
- Paid byth â chael dy demtio i gario arf i amddiffyn dy hun. Ar wahân i risg yr heddlu yn stopio a chwilio ti ac yn codi tâl gyda meddiant arf bygythiol, mae posibilrwydd y gallai ymosodwr ei gymryd oddi wrthyt a'i ddefnyddio yn dy erbyn
- Mae llawer o ganolfannau hamdden yn rhedeg cyrsiau hunanamddiffyn a allai helpu ti i deimlo’n fwy hyderus pan fyddi di allan ar ben dy hun
Cyngor Cyffredinol
- Cofia ffonio 999 ar gyfer achosion brys, ffonia 101 am unrhyw ddigwyddiad arall (pan nad yw rhywbeth yn peryglu bywyd ac nid ydy unrhyw un mewn perygl uniongyrchol)
- Efallai y byddi di hefyd am wybod rhif dy heddlu lleol er mwyn i ti eu ffonio yn uniongyrchol ac achub y rhif yn dy ffôn
- Os wyt ti'n teimlo mewn perygl a gweld plismon yn y stryd, gall ofyn iddynt fynd gyda thi gartref neu i ddiogelwch
- Gwna'n siŵr dy fod yn cloi drysau a ffenestri yn y tŷ ac yn cael gwared ar yr allweddi allan o'r clo
- Cer â phethau gwerthfawr i fyny staer pan fyddi di’n mynd i’r gwely
- Paid â gadael eiddo fel beics y tu allan os nad oes rhywun yn cadw llygad arnyn nhw. Defnyddia cloeon beic a chadwyni i'w diogelu
- Cloi’r sied/garej, yn enwedig pan fyddi di’n ei ddefnyddio i storio pethau gwerthfawr fel beics
- Cloi'r car a chau ffenestri, a rhoi eiddo yn y bŵt neu rhywle nad ydyw mewn golwg
- Parcio mewn strydoedd sydd wedi’u goleuo’n dda