Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Arfau a Drylliau



Arfau a Drylliau

Gellid ystyried unrhyw eitem a allai achosi niwed yn arf, felly gall yr eitemau yma amrywio o ddrylliau, cyllyll, cleddyfau a gynnau awyr i sisyrnau, plycwyr, a hyd yn oed deintbigau.

Drylliau

  • Arf sy’n saethu bwled, pelet neu daflegryn yw dryll. Gall hyd yn oed gwn pys achosi niwed difrifol
  • Mae’n drosedd bod â dryll i helpu ti i droseddu
  • Nid oes yn rhaid iddo fod yn ddryll go iawn. Mae drylliau chwarae neu gopïau yn drosedd os oes modd profi dy fod wedi bwriadu i bobl feddwl ei fod yn ddryll go iawn
  • Os oes gan yr heddlu reswm i feddwl bod gen ti ddryll mae ganddyn nhw hawl i stopio a chwilio – gweler yr adran ar Stopio a Chwilio
  • Yn unol â Rheoliadau Deddfau Arfau Tân 2010 efallai ni allai person sydd o dan 18 oed brynu neu logi unrhyw ddrylliau, gynnau saethu neu fwledi
  • Mae angen tystysgrif drylliau a gyhoeddwyd gan yr heddlu i feddu ar, prynu neu gael dryll neu ddryll tân. Mae'n rhaid i ti hefyd gael tystysgrif i brynu bwledi
  • Mae yna gyfyngiadau oed ar dystysgrifau, prynu a hurio gynnau pelets a drylliau
  • Mae yna ddrylliau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer chwaraeon, yn eu plith gynnau pelets, reifflau a gynnau awyr
  • Mae’r chwaraeon yma’n galluogi ti i ddefnyddio drylliau mewn amgylcheddau rheoledig a diogel, felly os oes gen ti ddiddordeb mewn drylliau meddylia am ymuno â chlwb drylliau neu roi cynnig ar saethu colomennod clai
  • Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiadau oedran ar ddrylliau a thystysgrifau, cer i met.police.uk

Arfau

  • Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un o dan 18 oed i brynu cyllell o unrhyw fath (gan gynnwys rhai cyllyll a ffyrc a chyllyll cegin)
  • Mae'n anghyfreithlon i gario cyllell yn gyhoeddus heb reswm da - oni bai ei fod yn gyllell â llafn sy'n plygu 3 modfedd o hyd neu lai, ee cyllell Swiss Army. Mae pob cyllyll eraill yn gleddyfau yn anghyfreithlon
  • Mae'n anghyfreithlon i ddefnyddio unrhyw gyllell mewn ffordd fygythiol, hyd yn oed cyllell Swiss Army
  • Y gosb uchaf am gario cyllell yw 4 blynedd yn y carchar a dirwy o £5,000
  • Os oes gen ti ddiddordeb mewn cleddyfau fe allet ti ystyried ffensio neu kendo a fydd yn dysgu ti sut i ddefnyddio cleddyf ac i ymladd mewn amgylchedd diogel a rheoledig

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50