Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau Defnyddwyr

Yn yr Adran Hon



Hawliau Defnyddwyr

Mae angen i ti fod yn ymwybodol fod yna ddeddfau i ddiogelu ti fel cwsmer neu ddefnyddiwr. Maen nhw’n berthnasol pan fyddi di’n mynd i siopa ar y stryd fawr ac ‘o bell’ h.y. dros y ffôn, drwy’r post neu drwy’r rhyngrwyd. Maen nhw’n berthnasol i nwyddau a gwasanaethau.

Dyma rai enghreifftiau o hawliau defnyddwyr:

  • Gall gael dy arian yn ôl, neu gael trwsio neu dderbyn cynnyrch newydd os oes nam arno, neu os nad yw’n gwneud yr hyn y mae i fod i’w wneud
  • Fodd bynnag, nid oes gen ti hawl i unrhyw beth os byddi di’n newid dy feddwl, oni bai dy fod yn prynu ‘o bell’
  • Mae gen ti'r hawl i gael dy holl arian yn ôl os byddi di’n archebu nwyddau ‘o bell’ a ddim yn eu derbyn o fewn 30 diwrnod neu ddyddiad arall sydd wedi'i gytuno
  • Efallai y bydd gen ti hawl i gael dy arian yn ôl neu i gael iawndal os wyt ti wedi llofnodi contract gyda rhywun i wneud gwaith ar dy ran a’r gwaith hwnnw yn methu â bodloni’r safon

Dylai ceisio chwilio am gyngor cyn cychwyn unrhyw weithred i wneud cais am iawndal.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50