Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Dioddefwyr Trosedd
Yn yr Adran Hon
Dioddefwyr Trosedd
Mae bod yn ddioddefwr unrhyw fath o drosedd yn gallu bod yn brofiad trallodus iawn ac erchyll o bosib. Mae yna sawl math gwahanol o droseddau gallet ti fod wedi dioddef, yn eu plith mae trais yn y cartref, gwahaniaethu, dwyn, stelcio a thrais rhywiol.
Beth bynnag yw'r drosedd yn dy erbyn di, gall yr effeithiau barhau yn hir a bod yn emosiynol; gall y teimladau gynnwys braw, dicter, ofn, euogrwydd a diffyg hyder. Y newyddion da yw bod yna lawer o help proffesiynol ar gael mewn amryw ffurf.
Felly mae’n wirioneddol bwysig chwilio am help os wyt ti'n ddioddefwr unrhyw fath o drosedd a bydd yr help a’r gefnogaeth hefyd yn hynod werthfawr os bydd yn rhaid i ti fynd i'r llys fel tyst.
Mae hefyd yn bwysig dy fod di’n gofalu am ddiogelwch dy hun fel dy fod yn cwtogi ar y cyfleoedd a allai arwain atat ti’n dod yn ddioddefwr trosedd.