Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Gwahaniaethu
Yn yr Adran Hon
Gwahaniaethu
Gwahaniaethu yw’r gair am drin pobl yn annheg oherwydd pwy ydyn nhw, a gall hyn fod oherwydd eu hil, rhyw, anabledd, statws priodasol, tueddfryd rhywiol neu oed.
Fel datganwyd ar wefan Llywodraeth y DU mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw neu rywioldeb, oed, crefydd neu gred neu ddiffyg unrhyw grefydd neu gred, anabledd, bod yn feichiog neu gyda phlant, bod neu am ddod yn drawsrywiol, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol ac yn amlwg, er enghraifft dau o bobl yn gwneud yr un swydd ond yn cael eu talu ar wahanol gyfraddau oherwydd eu rhyw. Gall hefyd fod yn anuniongyrchol e.e. hysbyseb swydd sy’n gofyn am bethau penodol iawn. Mae cyfraith y DU yn cydnabod y ddau fath o wahaniaethu. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn ti yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu.
Mae’n gall ystyried os gellir unrhyw beth ti'n ei wneud yn dy fywyd bob dydd yn yr ysgol neu goleg gael ei ystyried yn wahaniaethol.