Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Hawliau a Chyngor Cyfreithiol

Mae gan bobl ifanc ac oedolion lawer o hawliau cyfreithiol. Fel arfer, maent yma wedi’u hysgrifennu mewn iaith gyfreithiol sy'n gallu bod yn anodd i bobl eu ddeall. Mae’n bwysig deall yn union beth maen nhw’n ei olygu a’r derminoleg sy’n cael ei defnyddio. Felly mae'n bwysig, yn aml, cael cyngor a chyfarwyddyd cyn bwrw ymlaen ag unrhyw hawliad sifil neu cyn mynd ag achos gerbron y llys. Gallwch gael cyngor oddi wrth wasanaeth Cyngor ar Bopeth. Gallwch ddod o hyd i rif eich swyddfa leol trwy edrych am Citizens Advice Bureaux dan Counselling and Advice neu Information Services yn y llyfr ffôn y Tudalennau Melyn, neu ewch i www.adviceguide.org.uk. Gallwch hefyd siarad â chyfreithiwr, ond cyn gwneud hynny gwnewch yn siwr eich bod chi’n gwybod faint fydd y gost. Gwelwch yr adran ar Hawliau Cyfreithiol.

Fe fydd gennych chi wahanol hawliau gan ddibynnu ar eich oed:


Pan fyddwch yn 10 oed gallwch chi gael eich dal yn droseddol gyfrifol.
Pan fyddwch yn 13 oed gallwch chi gael swydd ran-amser.
Pan fyddwch yn 16 oed gallwch chi adael yr ysgol, prynu tocyn loteri, cydsynio â chael rhyw, priodi os yw’ch rhieni yn caniatáu hynny, cydsynio â thriniaeth ddeintyddol neu feddygol neu wrthod, cael Rhif Yswiriant Gwladol, cael swydd amser llawn.
Pan fyddwch yn 17 oed gallwch chi ddysgu gyrru a phrynu car neu feic modur, cael eich anfon i’r carchar.
Pan fyddwch yn 18 oed gallwch chi briodi heb ganiatâd eich rhieni, gadael cartref heb ganiatâd eich rhieni, prynu sigarèts, prynu ac yfed alcohol o leoedd sydd â thrwydded i’w werthu, pleidleisio mewn etholiadau, gosod bet, cael tatw.
Mae gennych chi hawliau dynol hefyd fel dinesydd y DU, Ewrop a hawliau byd-eang. Gwelwch yr adran ar hawliau dynol.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau ewch i www.youthinformation.com.

Ewch i Justice and Equality – Legal Rights

Cardiau dilysu

Cardiau yw’r rhain sydd ar gael i bobl ifanc ac oedolion i brofi eu hoed, a byddan nhw’n eich helpu i brynu. Bydd llawer o awdurdodau lleol yn cynnig y cyfle i wneud cais am gerdyn dilysu naill ai yn yr ysgol, y coleg neu drwy glybiau ieuenctid ac ati. Os na allwch chi gael cerdyn yn lleol, yna ewch i’r wefan isod i gael manylion sut i sicrhau cerdyn.
www.validateuk.co.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50