Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Cyfranogaeth
Cyfranogi
Mae cyfranogi yn syml yn golygu cymryd rhan, ond pan mae'n cael ei gyfeirio ato wrth ystyried ti fel person ifanc mae'n aml yn golygu:
- cynnwys ti mewn prosiectau
- gweithio gyda thi i gael dy syniadau a dy farn
- dy annog di i gymryd rhan mewn llunio penderfyniadau i ddylanwadu'r gwasanaethau a'r gweithgareddau a ddarperir i ti
Mae set o Safonau Cenedlaethol wedi cael ei ddatblygu yng Nghymru ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc neu fod y gwaith yn effeithio ar bobl ifanc ac mae'n rhoi manylion am sut y dylai cymryd rhan:
- fod yn ddewis i ti
- rhoi gwybodaeth glir i ti
- golygu dy fod di'n cael dy drin yn deg, yn gyfartal a gyda pharch
- bod yn ystyrlon i ti - fe ddylet ti gael rhywbeth allan ohono
- rhoi adborth i ti