Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Fandaliaeth a Graffiti
Yn yr Adran Hon
Fandaliaeth a Graffiti
Trosedd malurio, distrywio neu hagru eiddo nad wyt ti'n berchen arno yw fandaliaeth.
- Mae gweithgareddau fel torri ffenestri llochesi fysus, rhoi paent ar dai a waliau a chicio blychau post i mewn nid yn unig yn gwneud i eiddo edrych yn hyll, ond mae'n gwneud i bobl deimlo'n ddig ac i gymdogaethau edrych wedi dirywio
- Yn anffodus, pobl ifanc sydd wedi diflasu neu'n ddig sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r troseddau yma
- Yn ystod blynyddoedd diweddar mae pobl wedi cydnabod bod graffiti yn gelfyddyd a gallan nhw nawr dderbyn bod celfyddyd graffiti, pan mae wedi’i rheoli, yn gallu bod yn ddiddorol ac mewn rhai achosion yn gelfyddyd hyfryd
- Erbyn hyn mae yna lawer o grwpiau o artistiaid graffiti sy’n ennill bywoliaeth o’u celfyddyd
- Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu dy fod yn gallu rhoi graffiti ar eiddo pobl eraill, ac mae yn erbyn y gyfraith i siopwr werthu paent chwistrellu i bobl dan 16 oed. Felly os wyt ti'n hoffi celfyddyd graffiti, ymuna â grŵp neu ddod o hyd i ofod dynodedig (efallai gall somewhereto_ dy helpu i ddod o hyd i neu greu gofod graffiti i ti)