Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Trosedd » Lladrad a Dwyn o Siop
Yn yr Adran Hon
Lladrad a Dwyn o Siop
Dwyn a Lladrad
- Ystyr dwyn yw cymryd rhywbeth rwyt ti’n gwybod dwyt ti ddim yn berchen arno
- Mae’n cynnwys popeth o siop ladrata a lladrata ceir i godi eitemau dydy pobl ddim yn cadw llygad arnyn nhw, fel bagiau a ffonau symudol, a’u cadw
- Mae hi hefyd yn drosedd cadw neu werthu rhywbeth sydd wedi’i ddwyn, sef trin a thrafod nwyddau wedi’u dwyn
- Pan fyddi di’n defnyddio grym i ddwyn, lladrad ydy hyn ac mae’n drosedd fwy difrifol na dwyn, ac fel arfer daw’r achos gerbron Llys y Goron
- Yn achos dwyn a lladrata, mae cadw llygad allan neu fod yn rhan o grŵp sy’n troseddu ynddo’i hun yn ddigon i ti gael dy erlyn, hyd yn oed os nad ti wnaeth y dwyn ei hun
Dwyn o Siop
- Dwyn o siop yw cymryd rhywbeth o siop heb dalu amdano
- Mae siopau o gwmpas y DU yn colli miliynau trwy siop ladrata ac yn awr yn ddoeth i hyn
- Mae camerâu diogelwch a swyddogion diogelwch cudd ym mhob man, ac os cei di dy ddal, bydd yna oblygiadau difrifol
- Mae siopwyr yn dweud taw'r cyfanswm y gost o siopladrad ieuenctid yw £190,000,000 y flwyddyn
- I rai pobl mae dwyn o siopau yn debyg i gaethiwed neu anhwylder gorfodaeth
Os wyt ti'n teimlo fod rhaid i ti ddwyn o siopau, cer am gymorth cyn iddi fynd allan o reolaeth a chyn bod gen ti gofnod troseddol a fydd, ymhlith pethau eraill, yn niweidio rhagolygon gwaith.