Gwybodaeth » Y Gyfraith a Hawliau » Cosbau a Dedfrydau
Yn yr Adran Hon
Cosbau a Dedfrydau
Mae canlyniadau troseddu yn ddifrifol iawn ac fe allan nhw effeithio ar weddill dy fywyd.
Mae gwybod a deall beth fydd y cosbau a sut bydd dy yrfa a gobeithion am swydd yn cael ei effeithio os oes gen ti gofnod troseddol yn gallu helpu ti i ddewis peidio cymryd rhan mewn unrhyw fath o drosedd.
Yn achos rhai troseddau, mae yna gosb neu ddedfryd benodedig (e.e. bydd llofruddiaeth bob amser yn arwain at ddedfryd oes). Ond yn y rhan fwyaf o achosion gall yr ynad neu’r barnwr ddewis pa gosb maen nhw’n meddwl sy’n addas.
Efallai y byddi di’n derbyn ‘rhyddhad diamod’ sydd yn golygu bod y llys o’r farn nad wyt ti’n euog ac rwyt ti’n rhydd i fynd adref. Neu, os bydd y llys o’r farn dy fod yn euog o’r drosedd rwyt ti wedi cael dy gyhuddo ohoni, efallai y byddi di’n derbyn ‘dedfryd o gaethiwed’. Byddi di’n cael dy anfon i naill ai carchar oedolion neu sefydliad troseddwyr ifanc.
Rhyddhad diamod
- Er dy fod yn euog, mae’r drosedd mor fân fel na fyddi di’n cael dirwy na chosb o unrhyw fath. Fel pe byddet ti ddim yn euog
Rhyddhad amodol
- Mae’r llys yn penderfynu, er dy fod di’n euog, y dylid rhoi cyfle i ti ac felly nid wyt ti'n cael dy gosbi yn y fan a'r lle. Fodd bynnag, os wyt ti’n troseddu eto cyn pen cyfnod penodol o amser, efallai y cei di dy gosbi am y drosedd gyntaf pan fyddi di’n cael dedfryd am yr ail
Rhwymo (Bind over)
- Bydd gofyn i ti lofnodi addewid ysgrifenedig y byddi di’n ymddwyn yn dda am gyfnod penodol
- Os na fyddi di’n ymddwyn yn dda, fe fyddi di’n cael uchafswm dirwy o £250 os wyt ti dan 14 oed, a £1000 os wyt ti dan 18 oed
- Os wyt ti dan 16 oed mae’n bosibl mai dy rieni yn hytrach na ti fydd yn gorfod cael eu rhwymo i wneud yn siŵr dy fod di’n ymddwyn yn dda. Mewn rhai ardaloedd, nid yw’n arfer i rwymo diffynyddion ifanc
Dirwy
- Bydd gofyn i ti dalu swm penodedig gan ystyried pa mor ddifrifol oedd y drosedd
- Uchafswm o £250 yw’r swm os wyt ti dan 14 oed a £1000 os wyt ti dan 18 oed
- Os wyt ti dan 16 oed, fel arfer dy rieni yn hytrach na ti fydd yn gorfod talu’r ddirwy
Gorchymyn iawndal
- Os wyt ti wedi achosi difrod neu anafiad i rywun neu eu heiddo, gall y llys dy orchymyn i dalu iawndal i’r dioddefwr, hyd at £5,000
- Gallai hyn fod ar ben dedfryd arall
- Dylai’r llys ystyried p’un a allet ti dalu’r swm ai peidio
- Os wyt ti dan 16 oed, fe fydd y llys fel arfer yn gorchymyn dy rieni i dalu’r swm
- Os wyt ti dan 17 oed mae'n bosib y bydd yn gorchymyn dy rieni i dalu, er y gallai’r llys hefyd orchymyn i ti ei dalu dy hun
Gorchymyn Cymunedol
- Gorchmynion gan y llys yw dedfrydau o’r math yma i ti fynychu canolfan, gwneud gwaith cymunedol neu ddechrau cyfnod o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth gyda swyddog prawf neu weithiwr cymdeithasol
- Bydd manylion y gorchymyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd a p’un a oes canolfan neu raglen addas ar gael ai peidio
- Os na fyddi di’n ufuddhau i’r gorchymyn fe allet ti gael dy ddwyn gerbron y llys eto a chael dedfryd o fath arall
Gorchymyn Cyfunol
- Gall dedfrydu ti i orchymyn gwasanaeth cymunedol a gorchymyn prawf ar yr un amser. Gelwir hyn yn orchymyn cyfunol
Dedfryd o gaethiwed
- Mae hyn yn golygu y byddi di’n cael dy gadw yn rhywle cadarn fel sefydliad troseddwyr ifanc neu garchar
Gorchymyn cadw a hyfforddiant
- Rhoddir y rhain i bobl ifanc dan 18 oed sydd wedi troseddu a’r drosedd honno yn un a fyddai wedi haeddu carchar pe bydden nhw’n oedolion
- Bydd hanner cyntaf gorchymyn cadw’n cael ei dreulio yn y ddalfa a’r ail dan oruchwyliaeth yn y gymuned
- Os wyt ti rhwng 14 a 17 oed ac yn torri’r gorchymyn cadw, gall y Llys Ieuenctid roi dirwy i ti o £1000
- Os wyt ti’n aildroseddu yn ystod gorchymyn cadw fe fydd y llys yn dedfrydu cyfnod o gaethiwed
Gorchymyn cadw allan
- Bydd hwn fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â gemau pêl-droed
- Os wyt ti'n dreisiol neu os byddi di’n cael dy ddal yn yfed alcohol mewn gêm lle mae wedi’i wahardd, gall y llys dy atal rhag mynd i fwy o gemau
- Byddan nhw’n rhoi gorchymyn cadw allan fel dedfryd ar ben un arall
- Gallai’r ddedfryd fod am drosedd trefn gyhoeddus fel ymddygiad treisgar, aflonyddu hiliol neu ymddygiad meddw ac afreolus
- Gellir gohirio dedfryd os oes yna newidiadau mawr er gwell yn dy fywyd ac mae’r llys o’r farn y dylai roi cyfle i ti ddangos bod y newidiadau yma'n mynd i barhau
- Dedfryd o gyfnod mewn canolfan hyfforddiant diogel, ac yna cyfnod o oruchwyliaeth
- Pan fyddi di'n mynd i fyw mewn llety’r awdurdod lleol ond fe fydd yna amod yn ymwneud â diogelwch (e.e. cyfyngiadau ar yr amseroedd y gallet ti fynd allan)
- Mae hyn yn cael ei gyflwyno fel opsiwn i’r llys pan fydd yn rhoi dedfryd i bobl ifanc rhwng 12 a 16 oed
- Gorchymyn cyrffyw yw’r sefyllfa lle bydd gofyn i ti aros mewn lle penodol yn ystod amser penodol (e.e. aros yn dy gartref ar ôl 10 o’r gloch y nos). Gall cyrffyw fod am gyfnod rhwng 2 a 12 awr y dydd, a gallan nhw bara am hyd at chwe mis
- Mae ‘tagio electronig’ neu ‘tagio’ yn enwau eraill ar fonitro electronig
- Tagio yw’r sefyllfa lle bydd dyfais electronig yn cael ei gosod arnat ti i fonitro dy leoliad. Mae’n bur debyg y bydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â chyrffyw, i wneud yn siŵr dy fod di’n ufuddhau i’r cyrffyw. Mae rhai pobl yn ystyried bod tagio yn torri hawliau sifil
- Sefyllfa yw hon pan fydd y llys yn gorchymyn dy riant/rhieni/gwarcheidwad/gwarcheidwaid i reoli a gwneud yn siŵr dy fod di’n cyflawni dedfryd gymunedol yn iawn. Os na fyddan nhw’n gwneud hyn fe fydd yn rhaid iddyn nhw fforffedu hyd at £1000
Dedfryd ohiriedig
Gorchymyn hyfforddiant diogel
Remand Cadarn
Gorchmynion cyrffyw
Monitro electronig
Rhwymo rhieni
Bydd dy ddedfryd yn dibynnu ar lawer o bethau fel p’un a oes gen ti gofnod troseddol blaenorol ai peidio, pa mor ddifrifol yw’r drosedd, os wyt ti’n teimlo'n sori am beth wnes di a pha lefel o ddedfryd mae’r llys o’r farn fydd fwyaf effeithiol.
Os wyt ti’n 17 oed neu’n iau, ac mae dedfryd gymunedol neu ddedfryd o gaethiwed yn debygol, fe fydd y llys fel arfer yn gwneud cais am PSR (Adroddiad cyn dedfrydu), sef adroddiad y bydd gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf yn ei lunio yn dweud pam dy fod wedi troseddu ac yn nodi beth y gellid ei wneud i atal ti rhag aildroseddu neu i leihau’r tebygolrwydd y byddi di’n aildroseddu. Bydd y llys yn defnyddio’r adroddiad yma i’w helpu i benderfynu pa ddedfryd i'w gorfodi.